Croeso i The Sprout! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Cymru 0-1 Costa Rica

Postiwyd gan FalseNine o Caerdydd - Cyhoeddwyd ar 01/03/2012 am 17:03
0 sylwadau » - Tagiwyd fel Chwaraeon a Hamdden

  • droed

English version

Cymru 0-1 Costa Rica

Stadiwm Dinas Caerdydd

Dydd Mercher 29 Chwefror 2012-03-05

Baglodd Cymru ger traed ochr rhagorol a digynnwrf Costa Rica heno, yn y gm goffa i gofio Gary Speed.

Cychwynnodd y gm o'r diwedd ar l i'r dorf ehangu'r munud o gymeradwyaeth mewn teyrnged i'r cyn rheolwr Cymru, er byddai'n deg dweud fod Cymru ddim wedi dechrau mewn gwirionedd. Roedd Costa Rica yn arwain yn esmwyth o fewn y deg munud agoriadol ac nid oeddent yn edrych mewn unrhyw berygl o ddifrif o golli'r gm, gyda Joel Campbell yn slotio yn syml heibio Lewis Price ar l rhedeg ar ongl i'r bocs.

Roedd Costa Rica yn edrych yn hapus yn chwarae i mewn i ac yn derbyn y bl mewn llefydd tynn, weithiau'n swagro pasio ychydig o chwaraewyr ac yn ymestyn a stilio'r amddiffyniad Cymru. Yn y cyfamser, tra roedd Cymru gyda'r bel, roeddent yn edrych yn l ac yn hir ac yn methu athletiaeth anhygoel Gareth Bale a golwg a manylrwydd Aaron Ramsey. Yr unig chwaraewr i gynnig unrhyw symudiad ymlaen oedd Hal Robson-Kani, oedd yn aml yn unig ac yn cael ei anwybyddu ar y dde, wrth i'r capten Craig Bellamy ollwng yn ddwfn i chwilio am y bl.

Ar yr ychydig adegau pan roedd Cymru yn bygwth gl-geidwad bywiog Costa Rica roedd hyn o ddarnau gosod, gyda Steve Morison yn bwrw peniad oddi ar y bar o gornel 40 munud a'r dirprwy chwaraewr Robert Earnshaw yn bwndela'r bl i mewn i'r rhwyd o gic rydd Joe Ledley, dim ond i gael ei gythruddo gan benderfyniad camochri tyn ond cywir.

Roedd dros 23,000 wedi llenwi Stadiwm Dinas Caerdydd i dalu teyrnged i Gary Speed a dwi ddim yn si?r byddai unrhyw un ohonynt yn gallu deall sut mai Andrew Crofts gafodd ei enwi'n chwaraewr y gm, pan roedd saith i ddeg o chwaraewyr yn y crysau gwyn oedd yn haeddu hyn llawer mwy. Ni wnaeth Costa Rica gyrraedd y gr uchaf, ond nid oedd rhaid iddynt chwaith wrth iddynt gynhyrchu perfformiad proffesiynol yn erbyn ochr emosiynol Cymru.

Mae'r rheolwr newydd Chris Coleman wedi dweud fod hwn wedi bod yn wythnos galed yng nghamp y tm ac nad dylai edrych ar hwn fel ei gm gyntaf, ond fod gwers i'w ddysgu yma ymysg y dathliadau o fywyd a llwyddiannau Speed. Mae bob tro'n anodd i genedl o faint Cymru i ymdopi gydag anafiadau i chwaraewyr allweddol, ond mae'n rhaid i Coleman ddatblygu Cynllun B i ymdopi os ydy Cymru efo unrhyw gyfle i gael yn agos at Frasil 2014, sef bwriad Speed ar gyfer y tm.

Mae brwdfrydedd a chanu'r dorf, yn enwedig y rhai yn y pen Canton wedi sicrhau fod heno yn deyrnged addas i ddyn gwych hyd yn oed os nad allai'r chwaraewyr cynhyrchu canlyniad positif ar y cae.

Gorffwysa mewn heddwch Speedo.

Newyddion – Chwaraeon a Hamdden
Gwybodaeth – Pl-droed
Erthygl berthnasol: Gary Speed: Arwr Cymru
DELWEDD: Sum_of_Marc

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi. Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael y cyfle i ennill �50