Cyfle Hyfforddi Cyffrous i Ddawnswyr Ifanc!
Wyt ti yn:
14-18 mlwydd oed?
- Dawnsio’n rheolaidd yn barod?
- Byw yn un o ardaloedd yr awdurdodau unedol hyn: Blaenau Gwent, Pen-y-bont, Caerffili, Merthyr, RhCT, Torfaen neu Fro Morgannwg?
- Fodlon rhoi un prynhawn Sadwrn bob mis i aDvance (o ddiwedd Ionawr 2015)?
Wyt? Felly ymuna â ni i gymryd rhan yng nghlyweliad cwmni dawns ieuenctid ‘aDvance’ ar: Dydd Sadwrn, 10 Ionawr 2015, yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Caerdydd.
I gofrestru, ffonia 029 2026 5060 neu e-bostia nyaw@nyaw.co.uk gan nodi 'aDvance' yn y llinell testun (noda dy enw, oedran, dyddiad geni, rhif ffôn ac enw dy ysgol/sefydliad neu grŵp dawns).
Fe gei di gadarnhad o le yn y clyweliad a rhagor o fanylion ar ôl i ti gofrestru.
MAE’R CLYWELIAD YN RHAD AC AM DDIM. Fodd bynnag, mae’n rhaid i ti anfon siec am £20, yn daladwy i National Youth Dance Wales, fel blaendal. Fe gei di'r siec yn ôl yn ystod y clyweliad; os na fyddi di'n mynychu'r clyweliad, byddi'n colli'r taliad.
Bydd y clyweliad teirawr yn cynnwys dosbarth technegau cyfoes, dawns bale a chyflawniad byr i ddawnswyr, rhieni ac arweinyddion dawnsio ynghylch rhaglen aDvance.
I gael rhagor o wybodaeth, tro at www.nyaw.co.uk.
Cysylltiedig:
Erthyglau // Categorïau // Llwyfan
Gwybodaeth // Pethau I’w Gwneud // Y Celfyddydau // Actio, Drama a Theatr
*Cyflwyna dy waith i gael ei gyhoeddi yma*
A hoffet ti ennill crys-T Sprout? Llenwa Arolwg Bodlonrwydd Sprout!