Croeso i The Sprout! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Cyfle Diwethaf I Gystadlu: Rhyddid I Fod Yn Fi Fy Hun

Postiwyd gan Sprout Editor o Caerdydd - Cyhoeddwyd ar 28/10/2010 am 15:22
0 sylwadau » - Tagiwyd fel Celfyddyd, Ysgrifennu Creadigol, Diwylliant, Addysg, Cerddoriaeth, Pobl

  • free

English version

Dim ond ychydig ddyddiau sydd ar l i gofrestru am y gystadleuaeth hon, felly os hoffet gofrestru gwna’n siŵr fod dy ymgais yn dod i mewn cyn 1sf Tachwedd.

Cystadleuaeth Rhyddid I Fod Yn Fi Fy Hun

Beth mae ‘Rhyddid I Fod Yn Fi Fy Hun’ yn feddwl i ti?

Gwrando ar gerddoriaeth ti’n gwybod nad yw eraill yn hoffi? Gwisgo dillad sydd yn gwneud i ti sefyll allan? Steil gwallt gwahanol? Neu yn syml gallu mynegi beth wyt ti’n feddwl neu deimlo?

Mae Caerdydd Yn Erbyn Bwlio yn lansio darpariaethau ar gyfer wythnos gwrth-fwlio 2010, sydd yn rhedeg o 15 19 Tachwedd 2010. Thema Caerdydd eleni ydy ‘Rhyddid I Fod Yn Fi Fy Hun’.

Rydym yn chwilio am ysgrifenwyr ac arlunwyr ifanc i archwilio syniadau o gwmpas y thema hon. Rydym eisiau i bobl glywed eich llais!

Mae yna wobrwyon i’r enillwyr a bydd ymgeision yn cael ei chyhoeddi ar theSprout. Mae’r person sydd yn ysgrifennu’r gerdd neu eiriau gorau yn cael y cyfle i droi ei syniadau i mewn i record bydd wedyn yn cael ei recordio ar gyfer podcast theSprout.

Bydd lluniau buddugol yn cael eu harddangos yn Neuadd y Ddinas am y Gwobrau Ysbrydoli a Caerdydd Yn Stopio Bwlio ar 17 Tachwedd.

Sut I Gofrestru Mewn Pump Cam Hawdd

  1. I gychwyn, ysgrifenna gerdd, cn neu tynna lun o gwmpas y thema ‘Rhyddid I Fod Yn Fi Fy Hun’.
  2. Yna, cofrestra gyda gwefan theSprout drwy glicio yma, Dim ond munud mae’n cymryd a byddi di’n derbyn e-bost i dy gyfrif e-bost a bydd rhaid clicio arno i gwblhau’r cofrestru.
  3. Unwaith ti wedi cofrestru, mewngofnodi a chlicio ar y botwm Cyflwyno Newyddion i gofrestru. Gall ychwanegu cerdd neu gan yn y bocs Stori Newyddion neu sgrolia i lawr ac atodi dy lun i’r adran lluniau.
  4. Yn olaf, ychwanega dy enw, oed, ysgol a rhif ffn yn y bocs testun fel gallwn gysylltu gyda thi os wyt ti’n ennill1
  5. Bydd dy waith yn cael ei gyhoeddi ar wefan theSprout o fewn ychydig ddyddiau. Felly cofia ddod yn l i weld dy waith yn fyw!

Dyddiad cau ymgeision ydy 1af Tachwedd 2010.

Unrhyw broblemau e-bostia info@theSprout.co.uk

Noder: mae’n rhaid i ti fyw yng Nghaerdydd a bod rhwng 11 a 25 i ymgeisio.

Ymgeision hyd yn hyn

This Is Not Me gan Randolph

Free To Be Me? gan emb789

I'd Rather Be Me gan RoLouG

White Skinny Jeans gan Stormer007

I'm Free gan gingersinger123

The Hypnotist gan tmorgans

I Stand Free gan Sambow

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi. Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael y cyfle i ennill �50