Croeso i The Sprout! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Clwb Bocsio Llanrhymni Yn Agor

Postiwyd gan archifCLICarchive o Cenedlaethol - Cyhoeddwyd ar 05/07/2010 am 15:30
0 sylwadau » - Tagiwyd fel Chwaraeon a Hamdden

  • bocsio

English version

Mae clwb bocsio amatur newydd ar gael ar l i gwt cadetiaid diddefnydd gael ei droi  mewn i arena bocsio.

Mae dros 90 o focswyr newydd o 6 i 16 oed, bechgyn a merched, yn defnyddio'r Clwb Bocsio Amatur Llanrhymni ar Ball Lane, Llanrhymni yn barod.

Roedd y cyn-focsiwr Paul Clarke wedi bod yn ymladd i gael yr hawl i adeiladu'r gampfa am bron i dair blynedd, ond gydag ychydig o gymorth y Cynulliad a Chyngor Caerdydd, mae ei obaith o rannu ei sgiliau gyda chenhedlaeth iau yn digwydd o'r diwedd.

Dywedodd Paul Clarke: "Dwi'n gobeithio cael y plant oddi ar y strydoedd" ac "Mae'r gampfa yn Llanrhymni ond rydym eisiau edrych mewn mwy nag un lle. Mae gen ti bedwar cornel wahanol yn Llanrhymni, Rhymni, Trowbridge a Llaneirwg ac rydym yn gwadd plant o'r ardal gyfan. Rydym eisiau i bawb ddod at ei gilydd i weithio gyda'i gilydd."

Agorodd y pencampwr Gweriniaeth Nathan Cleverly y clwb Bocsio'r wythnos hon, pan wthiodd wyres 7 mis oed Paul ei ffordd i'r cylch bocsio. Mae Paul ar binnau eisiau hyfforddi hi, ond bydda'n well gan ei mam Cara iddi gymryd gwersi bale er iddi focsio ei hun.

Mae pump o ferched Paul wedi bocsio o Naomi sydd yn 23 i Charley sydd yn 10 oed. Dywedodd Paul: "mae'n dda i ferched dysgu yn ogystal bechgyn, a pam dylai hyn fod yn beth gwrywaidd yn unig?

"Mae'r genethod angen disgyblaeth yr un peth a'r bechgyn, bod hyn yn karate, dawnsio bale neu beth bynnag, maent angen rhywbeth i ganolbwyntio arno. Mae'r awyrgylch yn y gampfa yn wych a gall gadael dy hun i fynd."

Cafodd y cyfleusterau a'r offer eu talu gyda grant Cymorth £30.000 – y gronfa cymorth plant a phobl ifanc – a'r grant Gwasanaethau Ieuenctid, a'r cynllun Chwaraeon Caerdydd Cyngor Caerdydd yn helpu i hyfforddi gwirfoddolwyr i gael cymwysterau hyfforddi a hefyd i recriwtio o ysgolion lleol.

Dilyna'r ddolen am wybodaeth am focsio a chwaraeon dan do eraill yng Nghaerdydd.

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi. Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael y cyfle i ennill �50