CLICwylio: Cam 1af i Enwogrwydd
Wyt ti wedi trio bod yn gyflwynwr teledu, yn gritig cerddoriaeth/ffilm neu eisiau bod o flaen y camera… ond ti'n rhy swil?
Yna mae CLICwylio i ti!
Mae'r wefan anhygoel yma efo 20 o sianeli fideo gwahanol, yn cynrychioli pob gwefan yn y Gydweithfa CLIC (19 o wefannau lleol a'r CLICarlein cenedlaethol) ble gallet ti lwytho fideo ohonot ti dy hun neu beth bynnag hoffet, ar-lein, i rannu gyda'r byd!
Os oes gen ti syniad a rhyw fath o offer recordio fideo (hwre am ffonau symudol!) yna gallet ti lwytho beth bynnag ti eisiau!
Dyma dy gyfle i fynegi dy farn, syniadau, personadiad, jôcs, canu/actio talent a llawer mwy!
Syniadau am blogiau fideo:
- Esbonio hobi newydd
- Rhannu digwyddiad/ffaith od/doniol/diddorol
- Creu fideo cerddoriaeth dy hun efo ffrindiau
- Actio dy olygfeydd ffilm gorau
- Ymarfer bod yn ohebydd newyddion/chwaraeon/tywydd
- Personadu person enwog
- Perfformio dawns
- Ffeithiau a chyngor teithio
- Pethau sydd yn poeni ti ar y newyddion
Unrhyw beth ti eisiau! Mwynha!
Gwybodaeth – Gwneud Ffilmiau ac Animeiddio
Cyfarfod Grŵp Golygyddol Sprout Mehefin 2013
Digwyddiadau – The Big Cardiff Mini Film Festival
Erthyglau – Categorïau - Ffilmiau