Cip Ymlaen Llaw: Beach Break Live
Beach Break Live
Parc Gwledig Pen-bre
14-18 Mehefin 2012
Os hoffech benwythnos hir o’r gerddoriaeth fwyaf poblogaidd, adloniant bywiog a llond trol o hwyl a sbri, buasai g?yl myfyrwyr Cymru, Beach Break Live, yn ddelfrydol i chi.
Cynhelir yr ?yl, sydd bellach yn eich chweched blwyddyn, ym Mharc Gwledig prydferth Pen-bre yn Sir Gaerfyrddin, De Cymru, ac mae ganddi draddodiad o ddenu rhai o gantorion a grwpiau enwocaf byd cerdd a chreu awyrgylch parti diddiwedd; perffaith i anghofio am straen arholiadau.
Bydd y perfformwyr eleni yn cynnwys sr megis Chase & Status, Dizzee Rascal a Friendly Fires, ynghyd DJ Fresh, The Maccabees, Ben Howard, Ghostpoet, Maverick Sabre a Dry The River a fydd yn cynorthwyo i gynnig arlwy gerddorol hafaidd fendigedig.
Os nad yw hynny’n ddigon, bydd y parti’n parhau oddi ar y llwyfan, a bydd llu o adloniant ychwanegol yn cynnwys disgo slefrolio, tybiau twyn, zorbing, marchogaeth a dewis o chwaraeon eithafol.
Bydd gan yr 20,000 o fyfyrwyr y disgwylir y byddant yn mynychu le chwarae yn cynnwys wyth milltir o draeth a 500 cyfer o goedwig, ac mae’n debyg mai’r ?yl hon fydd y parti haf gorau erioed.
Bydd thema Olympaidd i’r gwisgoedd, a gallai Beach Break Live fod y ffordd orau o fwynhau haf bendigedig o ddathliadau Prydeinig, ac mae’n sicr o fywiogi arfordir De Cymru, sut bynnag fydd yw tywydd.
Mae tocynnau ar gael nawr o www.beachbreaklive.com
Newyddion Categorau Cerddoriaeth
Gwybodaeth Addysg Sgiliau Astudio Arholiadau







