Croeso i The Sprout! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Casáu Bodolaeth Arholiadau

Postiwyd gan undertheinfluence o Caerdydd - Cyhoeddwyd ar 29/04/2015 am 15:27
0 sylwadau » - Tagiwyd fel Addysg, Iechyd, Materion Cyfoes

  • desk

English version // Yn Saesneg

Mae hi'n adeg honno'r flwyddyn eto; straen, pwysau a phryder.

Mae Alice o Gaerdydd yn adnabod y teimladau sydd yn dod gydag eistedd arholiadau, ac ysgrifennodd amdano ar y Sprout yn 2013.

Yma, mae hi'n rhannu rhai o'i hawgrymiadau a thriciau er mwyn eu goroesi.

Gobeithio bydd y rhain yn ddefnyddiol i ti eleni!

-------------------------------------------------

Efallai bod yr arholiadau'n dod i derfyn, ond mae'r teimlad yn parhau bod cau dy lygaid a mynd i gysgu yn amhosib. Wel, nid heb glywed llais dy athro yn drymio yn dy glust, yn dweud wrthyt fod unrhyw benderfyniad ti'n ei wneud nawr yn aros gyda thi am weddill dy oes.

Dwi wedi ceisio 'peidio cynhyrfu' ac wedi ceisio 'cadw fy mhen', ond mae hyn fel arfer yn troi mewn i lanast pellach wrth i mi wedyn gynhyrfu am pam fedra i ddim 'cadw fy mhen'. Ceisiais ddilyn yr awgrymiad o gyfri defaid, er bod y rhain fel arfer yn troi i mewn i ddyddiadau hanesyddol neu sawl Harri'r Wythfed bychan yn carlamu dros y ffens.

Yn waeth byth, ar ôl yr arholiadau roeddwn i'n teimlo bod mwy o gwestiynau heb eu hateb; beth allwn i wedi ysgrifennu ym mhum munud diwethaf yr arholiad Ffrangeg? Pa brifysgol? Pa waith? Os nad yw'r cwestiynau hyn yn fy nghadw'n effro yna mae'r hafaliad am arwynebedd cylch yn sicr o ddod i'm mreuddwydion o leiaf tair waith mewn noson.

Yn ôl Childline, mae 57% o bobl ifanc Cymraeg yn eu harddegau wedi dweud mai'r pwysau i gael i mewn i brifysgol neu goleg oedd y prif reswm tu ôl i'r straen a phryder yma. Pan ofynnwyd pa effaith roedd hyn yn ei gael ar eu bywydau, dywedodd 64% o'r myfyrwyr eu bod yn dioddef o ddiffyg cwsg, sef bron i ddau draean o'r holl gyfranogwyr.

Yn aml ymddangosai fel bod mwy o wybodaeth am y symptomau o straen nag sydd yna i'w drechu. Y peth dwi'n casáu ydy pan mae'r tudalennau cyngor yn rhestru'r 'symptomau o straen'. Dwi fy hun dan bwysau. Oes, mae gen i gur pen ac na, fedra i ddim cysgu. Ond, dwi eisiau trechu'r poendod hwn, nid eisiau ychydig o bwyntiau bwled o gyngor sydd yn dweud "anadla yn ddwfn" (fel rhywun sy'n dioddef o asthma gallai hyn fod yn anodd). Dyma fi, yn effro am ddau'r bore, yn ceisio sicrhau fy hun os ydw i'n cadw fy mhen ac yn anadlu i mewn ac allan yn araf, byddaf yn cysgu am naw awr gyfan cyn yr arholiad mathemateg. Nid yw'n debygol iawn.

Amseru

Y cyntaf ar y rhestr o gamgymeriadau clasurol ydy adolygu yn hwyr yn y nos. Yr unig beth mae ceisio gwasgu llinell amser yr Ail Ryfel Byd i mewn yn dy ben am 11 y nos yn ei ddangos ydy beth wyt ti ddim yn ei wybod, a bydd yn cadw dy ymennydd yn rhedeg mewn cylchoedd tra ti'n gorffwys dy ben ar dy glustog. Ceisia stopio adolygu o leiaf awr cyn troi'r golau i ffwrdd; cer am dro, darllena lyfr ysgafn, neu eistedda i lawr mewn lle cyffyrddus, distaw am ychydig.

Patrwm Cysgu

Cer i'r gwely ar amser cyfleus. Efallai bod pobl yn dweud wrthyt ti gael noson fuan pan mae gen ti ddiwrnod ingol o dy flaen, ond os ydy dy gysgu naturiol di yn 10:30yh, a ti'n ceisio cysgu am 9yh, mae'n debyg dy fod di'n mynd i boeni gormod am pam ti ddim wedi cysgu. Mae angen cydbwysedd â paid cysgu i mewn tan 11yb os wyt ti'n gwybod byddi di ddim yn cysgu am 11yh. Mae trefn yn allweddol.

Rheoli Dy Waith

Gosod ffigwr benodol o oriau astudio a chadw ato. Yn bersonol dwi'n gweithio'n well drwy rannu'r adolygu i mewn i dalpiau pynciau a rhoi seibiant byr i fy hun pan fyddaf wedi gorffen adran. Cofia roi awr i ti dy hun i ginio a chael seibiant llwyr o unrhyw beth i wneud gydag astudio. Paid teimlo'n euog am barhau i wneud pethau ti'n mwynhau unwaith ti wedi cwblhau'r astudio ti wedi'i osod i ti dy hun am y dydd. Dylai arholiadau ddim gorchymyn sut wyt ti'n byw dy fywyd.

Diet

Mae'r ffordd ti'n bwyta yn chwarae rhan bwysig mewn dileu straen. Fy hafan ddiogel i pan oedd gen i bwysau penderfyniadau pwysig oedd siocled - llawer o siocled. I'm hanfodlonrwydd, efallai bod bwydydd lawn siwgr a braster yn dy godi di yn y tymor byr, ond yna byddi di'n teimlo'n isel. Efallai nad yw ffrwythau, llysiau, cnau, bwydydd protein a grawnfwyd yn swnio'n flasus iawn, ond byddant yn cadw'r lefelau siwgr yn y gwaed yn uchel ac maent yn dda i'r ymennydd.

Gofala Beth Ti'n Yfed

Efallai bod coffi, te a cola yn teimlo fel dy ffrind gorau wrth i ti wynebu llinellau terfyn a phenderfyniadau straenus. Ond, byddant yn cynyddu dy gynnwrf ac yn gwneud cwsg yn fwy anodd. Yn lle hyn, rhaid yfed digon o ddŵr i gadw'n hydradol. Mae te llysieuol hefyd yn ddewis gwych yn lle dy baned arferol. Ffefryn personol i mi ydy camil a mêl.

Osgoi Gliniaduron a Ffonau Yn Hwyr Yn Y Nos

Yn aml mae Facebook yn ymddangos fel syniad da er mwyn gwastraffu amser wrth eistedd yn y gwely. Ond paid cael dy dwyllo. Roedd cadw'n bell oddi wrth y byd yma tu mewn i'm gliniadur yn help i mi i syrthio i gysgu'n haws. Y prif reswm am hyn ydy bod edrych ar sgrin am o leiaf dwy awr cyn cysgu yn atal y rhyddhad arferol o melatonin yn y nos, yr hormon sydd yn gyfrifol am wneud ti'n gysglyd.

Yn ogystal â hyn, mae defnyddio dy liniadur yn hwyr yn y nos yn dy adael yn agored i Facebook, lle drwg i gael trafodaeth fydd yn peri mwy o banig. Mae'r dicter o sylwadau poenus gan dy gyfoed efallai yn cynnwys beth gafodd ei roi i lawr ar gyfer y cwestiwn olaf yn yr arholiad yna, pa mor hawdd oedd y cwestiwn yna doeddet ti ddim yn gallu ateb neu hyd yn oed rhannau o'r maes llafur doeddet ti ddim yn ymwybodol ohono, tan hynny.

Meddwl Yn Bositif

Y ffordd gorau i wir orffwys i mi oedd newid fy meddylfryd. Mae'n bwysig deall nad yw'r dyfodol yn ddibynnol llwyr ar ganlyniad un arholiad. Er bod canlyniadau arholiadau da yn helpu ti i lwyddo yn dy uchelgeisiau, paid teimlo nad oes posib bod yn llwyddiannus heb gael C mewn daearyddiaeth TGAU. Mae Richard Branson, Bill Gates a Will Smith yn rai o'r sêr heb radd prifysgol. Mae llwyddiant yn dod o ysgogiad a bod yn benderfynol.

Os wyt ti'n parhau i boeni am hyn a llall, mae yna lwyth o sefydliadau fel MEIC, llinell gymorth 24/7, sydd yn helpu pobl i ymdopi gyda phopeth mae bywyd yn ei gyflwyno.

Paid gadael i arholiadau ddiffinio pwy wyt ti a beth wyt ti eisiau bod.

Gwybodaeth -Straen/Pryder ac Ymosodiadau o Banig

Gwybodaeth - Adolygu

Gwybodaeth - Arholiadau

Erthyglau - Categoráau - Addysg

MeicCymru.org

Erthyglau Perthnasol:

DELWEDD: comedy_nose trwy Compfight cc

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi. Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael y cyfle i ennill �50