Canlyniadau TGAU - Awgrymiadau Gan Meic Ar Sut I Ddelio Gyda Diwrnod Canlyniadau
Mae 20 Awst 2015 yn ddiwrnod canlyniadau TGAU – ond rwyt ti’n siwr o wybod hynny’n barod, nag wyt ti?
Diwrnod fawr, yn sicr, ond nid diwedd y byd.
Beth bynnag yw dy ganlyniadau, mae wastad opsiynau ar gael i ti.
Beth yw rhain? Wel, rydym ni yn Meic – llinell gyswllt ac eirioli ar gyfer pobl ifanc yng Nghymru – gyda cwpl o awgrymiadau isod. Ond, os wyt ti am sgwrsio gyda rhywun y munud yma am ganlyniadau, opsiynau, neu unrhywbeth arall, mae Meic car gael 24/7 ar radffôn (080 880 23456), ar lein, neu neges testun (84001).
Ta beth, dyma’r awgrymiadau:
1. Paid A Becso!
- Nid yw’n ddiwedd y byd. Ni wnaeth llawer o bobl lwyddiannus gael y canlyniadau roeddent yn eu dymuno chwaith
- Ystyria’n ofalus beth wyt yn dymuno’i wneud mewn gwirionedd
- Gall dy ganlyniadau fod yn adeg yn dy fywyd pan ddylet ystyried posibiliadau eraill. Gallai hyn fod yn drobwynt cyffrous a phositif
- Cofiwch, gallet ti ail-sefyll eich arholiadau
2. Cysylltu â dy Ddewisiadau
- Cysyllta â’r ysgol/coleg. Hyd yn oed os wyt yn meddwl dy fod wedi cael y canlyniadau roeddet yn eu dymuno, dylai dy ysgol neu dy goleg allu dy helpu.
- Gofynna i dy gynghorydd gyrfaoedd yn yr ysgol/coleg am gymorth ar ddiwrnod y canlyniadau
3. Cysyllta â Phrifysgolion a Cholegau Eraill Sydd o Ddiddordeb i Ti a Siarada â Hwy!
- Dos yno a cheisia gael lle ar gwrs arall
- Trafoda’r sefyllfa â dy deulu, dy ffrindiau a dy athrawon - siarada â phobl sy’n dy adnabod, oherwydd mae dewis y coleg neu’r brifysgol iawn yn bwysig
- Siarada â Chynghorydd Gyrfaoedd - dylai dy gynghorydd yn yr ysgol fod ar gael – os nad ydyw, cysyllta â chanolfan leol Gyrfa Cymru cyn gynted ag y gelli!
4. Ystyria’r Dewisiadau Eraill
- Blwyddyn fwlch
- Ailsefyll arholiadau
- Gwaith
5. Bydda'n Bositif
Efallai ei fod yn swnio fel y newyddion gwaethaf yn y byd ar hyn o bryd, ond ymhen ychydig flynyddoedd, efallai y byddi'n fodlon â dy ganlyniadau
Cysylltiadau defnyddiol
- MeicCymru.org
- TheStudentRoom.co.uk
- TheSite.org - darllena’r erthyglau am ganlyniadau a FAQ blynyddoedd i ffwrdd
- Gyrfa Cymru (0800 028 4844) - yn enwedig y Canllaw Ble Nawr?
Galwch heibio Twitter ar Ddydd Gwener, 21ain Awst rhwn 1pm a 3pm, ble fydd Gyrfa Cymru yn ateb cwestiynau gyda'r hashtag #askcareerswales. Bydd Gyrfa Cymru hefyd yn ateb cwestiynau ar Facebook rhwng 11am-1pm.
Arian
Ar wahan i'r graddau, gall arian fod yn problem sydd yn dy feddwl (sydd ddim yn peth newydd). Os wyt ti’n casglu eich canlyniadau TGAU a mynd i coleg, mae’n bosib eich bod chi’n gymwys i dderbyn Lwfans Cynhaliaeth Addysg (LCA). Mae’r lwfans ar gael i ddisgyblion 16-18 oed sydd am parhau gyda’u addysg ar ol gadael ysgol. Mae’n bosib y gei di hyd at £30 yr wythnos (yn cael ei talu bob yn ail wythnos). Ewch i Cyllid Myfyrwyr Cymru am mwy o wybodaeth.
- Dyma rhai wefanau eraill sydd gallu ei helpu gyda'r ochr arian.
- www.gov.uk/browse/education/student-finance - gwybodaeth ariannol gyffredinol
- http://www.cyllidmyfyrwyrcymru.co.uk/ - cyllid i fyfyrwyr o Gymru
- Hefyd, mae gan Gyrfa Cymru fynediad at amrywiaeth o ffynonellau cyllid eraill, megis grantiau a bwrsariaethau
- Efallai fod y brifysgol neu’r coleg rwyt wedi’i ddewis yn cynnig eu grantiau a’u bwrsariaethau eu hunain i’w myfyrwyr








