Bydd Yn Seren
Maen nhw’n dweud na ddylid gadael i gyfle fynd heibio. Os wyt ti'n 11-25 oed ac efo talent, dyma dy gyfle DI i gael sylw. Fe allet ti fod yn perfformio yng Ngwobrau Rhagoriaeth Gwaith Ieuenctid Llywodraeth Cymru fis Chwefror nesaf.
Trefnir y Gwobrau Rhagoriaeth Gwaith Ieuenctid gan Lywodraeth Cymru mewn partneriaeth â rhanddeiliaid. Mae’r digwyddiad blynyddol hwn yn rhoi cydnabyddiaeth i Weithwyr Ieuenctid am eu gwaith caled a’u hymroddiad. Rhoddir gwobrau i unigolion ac i brosiectau am eu cyfraniad eithriadol i waith ieuenctid a bywydau pobl ifanc yng Nghymru.
I gael cyfle i berfformio yn y noson wobrwyo, yr unig beth sydd yn rhaid gwneud ydy cyflwyno fideo YouTube 1 munud yn arddangos dy dalent, gyda dy enw, cyfeiriad, rhif ffôn a chyfeiriad e-bost i Youthworkexcellenceawards@wales.gsi.gov.uk
Erthyglau Perthnasol
CLIC @ Gwobrau Rhagoriaeth Gwaith Ieuenctid 2013
Erthyglau » Categorïau » Llwyfan
Gwybodaeth » Pethau I'w Gwneud >> Y Celfyddydau