Arolwg SCUFf
Mae Draig Ffynci’n rhoi cyfle i blant a phobl ifanc Cymru i roi gwybod i’r Cenhedloedd Unedig sut mae hawliau plant yn cael eu gweithredu gan y llywodraeth. Mae arolwg SCUFf (Sialens Cenhedloedd Unedig Ffynci) ar gael erbyn hyn ar-lein ac mae’n rhan o’r rownd bresennol o adroddiadau ar gyfer Pwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn Eu gwaith nhw yw dweud wrth lywodraeth y DU a llywodraeth Cymru sut allan’ nhw wella’r ffordd maen nhw’n cyflawni’u hymrwymiadau dan CCUHP.
Dyma’r cyfle gorau i blant adael i lywodraeth Cymru a llywodraeth y DU wybod beth maen nhw’n meddwl am yr hyn sy’n digwydd yn eu hardaloedd lleol. Mae’n arolwg cynhwysfawr sy’n cynnwys wyth o bynciau: Iechyd, Addysg, Gwybodaeth am CCUHP, Gwybodaeth, Yr Hawl i gwrdd/mannau diogel i chwarae, Cyfranogiad, Gwahaniaethu, Diogelwch ac amddiffyn rhag niwed.
Lluniwyd yr arolwg gan gr?p llywio SCUFf fel rhan o broses addysgu a hwyluso. Mae aelodau’r gr?p wedi derbyn hyfforddiant dwys mewn technegau ymchwil, ac maent wedi creu’r arolwg ochr yn ochr dulliau eraill fel grwpiau ffocws a chyfweliadau.
Wrth i’r prosiect fynd yn ei flaen byddant yn casglu a gwerthuso’r data, yn ysgrifennu’r adroddiad, ac yn ei gyflwyno yn y pen draw i’r Cenhedloedd Unedig yn Genefa. Y tro diwethaf i aelodau Draig Ffynci gyflwyno’u hadroddiad i Bwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn, gofynnwyd iddyn nhw gynghori’r Cenhedloedd Unedig ar sut i gasglu tystiolaeth oddi wrth blant.
Mae’r holl broses o adrodd yn cael ei harwain gan y gr?p llywio, gan olygu ei bod mor agos phosib at yr hyn mae plant a phobl ifanc Cymru am ddweud wrth y Cenhedloedd Unedig am eu gwlad.
Bydd canfyddiadau’r arolwg yma’n cael effaith go iawn ar y ffordd mae Llywodraeth Cymru’n cynllunio a chyflwyno deddfau. I wneud yr arolwg clicia yma. (https://www.surveymonkey.com/s/SCUFF2012)
Sefydliadau UNCRC - Let's Get it Right!
Gwybodaeth Y Gyfraith, Hawliau a Dinasyddiaeth Hawliau a Chyfrifoldebau