Croeso i The Sprout! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Aelodau Anrhydeddus?

Postiwyd gan archifCLICarchive o Cenedlaethol - Cyhoeddwyd ar 18/03/2010 am 16:39
0 sylwadau » - Tagiwyd fel Ysgrifennu Creadigol, Diwylliant, Pobl, Materion Cyfoes

  • aelodau
  • aelodau2

English version

Mae’r Toraid fel plant gwawdlyd yn y Tai Cyffredin yn ystod Cwestiynau’r Prif Weinidog (PW) yr wythnos hon, fel pob wythnos arall ond yn arwain tuag at etholiad cyffredinol, mae cannoedd o flynyddoedd o brotocol a gwedduster yn cael eu hanghofio.

Mae aelodau yn gweiddi dros yr Aelodau Seneddol Ceidwadol sydd ddim yn cuddio eu ciwed nid sibrwd maen nhw ond siarad yn uchel iawn, yn ddistaw pan mae Tori yn siarad yn unig, yn llonni pan mae un o rai nhw yn cydio’r ffon siarad fel y moch elitaidd ydynt.

Dwi’n cofio’r cyngor myfyrwyr yn fy ysgol uwchradd yn bod yn fwy tawedog ac aeddfed, ac eto byddet yn meddwl dy fod yn gwylio plant yn dadlau, yn gweiddi dros ei gilydd gyda hunan bwysigrwydd cryf ti ddim ond yn ei gael o’r blaid toff. Ond nid cyngor ysgol mo hwn gall y bobl hyn fod yn rhedeg ein gwlad mewn ychydig fisoedd, a dwi’n poeni.

Mae hyn yn cael ei gadarnhau, wrth gwrs, wrth glywed David Cameron yn ymateb i’r PW gyda “Wriggle, wriggle, wriggle.” Ffraethineb amlwg David.

Ond eto gall disgwyl y fath yma o ymateb gan ddyn sydd ddim yn dod a nodiadau i’r Tai Cyffredin, dyn sydd yn ymweld fel ei fod yn neidio ar unrhyw fater cyfoes, yn hytrach nag ymchwilio dadl sydd wedi’i meddwl allan, er mwyn rhoi trafferth i Gordon Brown. Nid egwyddorion ydy’r peth efo’r dyn a’r blaid yma, neu hyd yn oed angerdd chwaith, ond am gystadleuaeth dim syndod gan ddynion a merched o Rydychen.

A dyna’r broblem yma. Sut fedra disgwyl i’r blaid toff gael unrhyw gydymdeimlad gyda’r dosbarth gweithiol y bobl go iawn?

Yn enwedig wedi gwylio When Boris Met Dave siriol a difyrrus, wedi’i greu gan Toby Young, toff arall o Rydychen propaganda Ceidwadol yn y bn, a gymharodd Boris Johnston i Winston Churchill, awgrymu fod Cameron a Johnson efo perthynas Blair/Brown, yn ceisio gwthio lawr ein corn gwddw fod Cameron ddim yn [Snip! Is-Olyg] elitaidd, ei fod yng nghŵl ac yn tynnu lot o ferched, sydd wrth gwrs yn union beth sydd eisiau gan arweinydd y wlad ac yn waeth na hyn, yn datgan fod David Cameron ddim i wneud gyda lluchio planhigyn mewn pot allan drwy ffenestr, ond eto yn awgrymu’n drwm ei fod wedi ond ei fod yn llawer rhy glyfar i gael ei ddal oherwydd dyna’n union beth mae’r cyhoedd eisiau arweinydd sydd ddigon craff i orchuddio pethau pan mae’n torri’r gyfraith.

Mae’r pwynt dwi’n ei wneud yma yn cael ei fynegi yn well gan David Osler o Liberal Conspiracy “mae diddordebau y rhan fwyaf o’r gymdeithas, sydd yn byw drwy werthu eu pŵer llafur, yn hollol yn erbyn diddordebau’r lleiafrif bach sydd yn byw trwy ei ecsploetio.”

Ond hei, mae’r Ceidwadwyr wedi newid nawr dyna beth goll sylfaen eu hymgyrch newid newid newid mae’r llywodraeth angen newid, mae’r wlad angen newid, ac mae’r Ceidwadwyr wedi newid.

Heddiw, mae David Cameron wedi profi nad yw ei blaid wedi newid o gwbl. Mae’n barnu Brown am y ffordd mae wedi delio gyda’r streic British Airlines yn dweud fod ei ymdrechion yn “eiddil” ac nad oes ganddo “asgwrn cefn”. Mae’r blaid toff yn hawlio fod ymateb gwan Llafur i’r bygythiad o streic yn ymwneud ’u cysylltiadau ariannol gyda Unite, sydd wedi cefnogi undeb BA.

Syndod mawr, mae’r blaid toff yn dangos dicter tuag at yr undebau mae hyn yn anghyffredin, daria, maen nhw wedi newid go iawn do? “Pan ddaw’r amser,” meddai Cameron, “gallai [Brown] ddim ond gweithredu er diddordeb yr undeb, nid diddordeb cenedlaethol.”

Byddwn i’n dweud fod diddordeb cenedlaethol ydy diddordeb y dyn sydd yn gweithio, ni, y bobl ym Mhrydain, y rhai sydd o ddiddordeb i’r undeb. Mae’r datganiad hwn yn dangos agwedd y Ceidwadwyr tuag at bob undeb, y dicter a’r bustl yn diferu o’u cegau fel pryfyn yn cyfogi ysgarthion, sydd yn ei dro yn dangos dicter i bobl mae’r undebau yn cynrychioli ni.

Nid oes newid yn fan hyn ymysg y blaid Geidwadol, dim ond wyneb ifanc yn dwyn slogan weithiodd mor dda mewn etholaeth gwlad mwy.

A beth mae Cameron yn credu go iawn? Wel, gallaf ddweud ynghyd dangos dicter i’r undebau a’r BBC, mae wedi pleidleisio yn erbyn gwaharddiad mamaliaid gwyllt gyda chŵn ac wedi pleidleisio i gadw Adran 28 cymal yn erbyn “hyrwyddo gwrywgydiaeth nag dysgu derbyniaeth o wrywgydiaeth fel honni bod yn berthynas teuluol “, yn arwain tuag at dyrfa o grwpiau cymorth lesbiaid, hoyw, trawsrywiol a deurywiol mewn ysgolion gael eu cau i lawr, a phleidleisio yn erbyn cynnig yn 2003 fod yr achos ddim wedi cael ei wneud ar gyfer ymosodiad Iraq.

Rargian, Tori wedi’i addysgu yn Rhydychen sydd werth trideg miloedd o bunnau sydd yn casu undebau, y BBC, gwrywgydiaeth ac wrth ei fodd gyda sesiwn dda o hela llwynogod, nid ydym erioed wedi gweld hyn o’r blaen!

Gydag arweinydd Ceidwadol newydd, bydd newid, ond nid am y gorau y fath o newid sydd yn cael ei adnabod yn gyffredin fel llithro’n l, llithro’n l o leiaf tair blynedd ar ddeg os nad mwy dywedodd Brown yn y Tŷ Cyffredin heddiw “maen nhw’n dweud eu bod wedi newid ond mae eu unig bolisi economaidd o’r 1980au.”

Ond, ia, David, parha i bistyllu dy geg fach gain am newid, ond dwi’n addo i ti, y geiriau ti’n ei chwilio am ydy llithro’n l.

Nodyn Is-Olygydd: Fel gyda phopeth ar theSprout, mae’r erthygl hwn yn adlewyrchu barn bersonol yr awdur ac ddim o angenrheidrwydd rhai theSprout. Os ydy’r erthygl hwn wedi cythruddo ti yna ymateba, cyflwyna erthygl, critigia Llafur, y Democratiaid Rhyddfrydol, y Blaid Gwyrdd, y BNP, Plaid Cymru, pwy bynnag ond paid pwdu a gofyn iddo gael ei ddileu. Mae etholiad pwysig iawn yn mynd i ddigwydd yn o fuan a byddai’n beth da cael ychydig o ddadl. Chocs awe!

DELWEDD: mydavidcameron.com

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi. Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael y cyfle i ennill �50