Adolygiad: Metronomy @ Clwb
Mae'r erthygl hon wedi cyrraedd y rhestr fer categori Adolygiad Gorau yng Ngwobrau CLIC 2011.
S?n Yn Cyflwyno Metronomy
Gyda chefnogaeth gan Get People a Ghostpoet
Clwb Ifor Bach, dydd Iau Ebrill 21
Dydy ni ddim yn 'gwneud' technoleg yn ein t? ni mewn gwirionedd. Mi rydym ni, ond ddim yn dda iawn. Cawsom deledu newydd yn ddiweddar ar l tua 15 mlynedd o wasanaeth gan yr un hen ac mae ein gismo newydd yn eithaf 'swish' fel byddai dad yn ei ddweud, neu yn wir, fel dywedodd dad. Ond, er y bwriad da oedd tu l i'r uwchraddiad cafodd nodwedd fwyaf addawol y peiriant, y gallu i ddangos fideos YouTube, ei diddymu gan ddewis ffl fy rhieni o 'hyb' diwifr, sydd ddim byd i wneud gyda'r peth ti'n deall; bai eu mab Tom oedd y peth yn gyfan gwbl.
Mae'r un peth yn wir am ein radio DAB, gafodd ei brynu yn awyddus yn fuan yn eu bodolaeth yn y dyddiau niwlog o'r don ganolog. Ond, er dewis brand Japaneaidd parchus sydd yn cychwyn gyda 's' ac yn amrywio ei leoliad dros ein t?, nid yw wedi gweithio o gwbl am hirach na deg munud. Dros yr ychydig wythnosau diwethaf dwi o'r diwedd wedi cychwyn fy newid cyn arfaethedig drosodd i BBC 6 Music trwy'r rhyngrwyd, sydd yn gweithio weithiau, ac mae'r amrywiaeth o gerddoriaeth sydd ar yr orsaf wedi rhyfeddu a fy ngwirioni. Un o'r bandiau cyntaf i mi ddarganfod dim ond wythnos yn l ydy Metronomy, pedwarawd electronig o "Llundain trwy Brighton (drwy basio Devon)", a drwy ryw fath o lwc annisgwyl roeddent yn chwarae yn Clwb neithiwr
Ond i gychwyn gyda'r band cefnogol; yn cychwyn y noson roedd Get People o Lundain, gyda pop electroneg oedd yn eithaf 'trofannol' fel awgrymir eu tudalen MySpace – roeddent yn defnyddio bongos a phn afal fel offeryn taro – ac roedd y dorf newydd yn ymddangos fel petaent yn cynhesu at y sain 80au. Wedi mynd i ffwrdd a gwrando arnynt eto, dwi'n clywed 'groove' eneidiol y Pet Shop Boys, yn enwedig yn eu sengl gyntaf Odyssey, dwi wedi cael gwybod bod EP yn cael ei ryddhau hwyrach yn y flwyddyn. Maent yn 'newydd ar y sn' ond roedd y set yn dangos addewid pendant – enw ar gyfer y dyfodol efallai.
Yna cawsom Obaro Ejimiwe o Coventry, neu Ghostpoet, mae ei albwm cyntaf diweddar gyda'r enw syfrdannol Peanut Butter Blues and Melancholy Jam wedi creu st?r ar y sn hip-hop amgen ac yn ehangach, gydag awgrym fod ei s?n cysglyd gwreiddiol yn sicr o lwyddo. Yn galw ei hun yn "bachgen sydd yn siarad yn floesg a gydag ychydig o straeon i ddweud", roedd y cynhyrchydd/MC yn ymddangos fel petai'n cysylltu yn wirioneddol gyda'r ystafell gyda'i het ffasiynol, sbectol a'i swagro diymdrech. Cyn y gig roeddwn wedi gwrando ychydig ar ei gerddoriaeth ac nid oedd yn fy ysbrydoli'n fawr iawn, ond roedd yn dod yn fyw ar y llwyfan; y curiad electronig, geiriau hyderus a'r tueddiad swynol o ailadrodd beth roedd yn ei ddweud, ddweud, ddweud, gwirioneddol wych. Roedd “I keep on writing, writing / But them folk ain't biting, biting" o Liiines yn eiriau oedd yn arbennig o gofiadwy, yn crynhoi ei fod ef o dan y radar, ond dwi'n teimlo fod Ejimiwe ar ei ffordd i fyny.
Ac am y prif fand. Fel dywedais, dim ond yn ddiweddar 'darganfyddais' Metronomy ac felly dim ond ychydig o'r caneuon oeddwn i'n gwybod ond mae'n rhaid dweud fe fwynheais y set yn fawr iawn o'r cychwyn cyntaf ac roeddwn yn adnabod llawer iawn o'u cerddoriaeth. Yn gwisgo goleuadau fel lleuad wedi'u strapio i'w brest ac yn llawn o egni difater, roedd y band yn perfformio tiwniau hen a newydd (maent wedi bod yn fand ers rhyw chwe blynedd( ac roedd Clwb yn gorlifo ac yn gorboethi gyda pop electronig goleuog. Mae'r gerddoriaeth wedi ei grefftio yn dda ac wedi'i haenu yn fanwl; dim syndod felly eu bod wedi derbyn cymeradwyaeth am eu gwaith o ailgymysgu gwaith artistiaid fel Gorillaz a Franz Ferdinand ac wedi gweithio gyda Florence and the Machine a Kate Nash.
Y rhannau gorau o'r perfformiad oedd pan ddaeth y llinell bas flasus o Heartbreaker, y lleisiau cefndir powld A Thing For Me a'u sengl ddiweddaraf The Look sydd yn hyfryd o afaelgar, fy ffefryn personol. Cafodd pawb noson wych a dywedodd un aelod o'r dorf, fy ffrind Gareth, fod y gig yn "anhygoel o bleserus ac yn ffordd orfoleddus iawn i dreulio nos Iau, yn enwedig yng nghwmni ffrind mor wych Tom." Neu eiriau tebyg beth bynnag. Diolch Gaz.
I ddweud y gwir, does dim gwell na dos dda o gerddoriaeth byw ar noson o wanwyn a diolch i'r bobl yn S?n am noson 'ffres' arall o adloniant yn y brifddinas ac am ein rhoi ar y rhestr gwestai (trwy theSprout). Tyrd a mwy o 's?n'! Roedd Clwb yn ddigon cartrefol ac wedi'i wyntyllu yn wael fel ei fod yn noson gyflawn chwyslyd felly diolch iddyn nhw hefyd a tra dwi wrthi diolch i mam a dad am eich cariad a chefnogaeth, er eich diffyg technolegol, fe lwyddais i ddarganfod band werth mynd i'w weld trwy'r we.
Mae'n teimlo fel seremoni wobrwyo
Newyddion – Categorau – Cerddoriaeth







