Croeso i The Sprout! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Adolygiad: Jazz Aberhonddu 2013

Postiwyd gan Tom_Bevan o Caerdydd - Cyhoeddwyd ar 16/08/2013 am 14:47
0 sylwadau » - Tagiwyd fel Gwyl, Cerddoriaeth

  • jz1
  • jz2
  • jz3
  • jz4

English version // Yn Saesneg

Gŵyl Jazz Aberhonddu
Dydd Gwener 9fed – Dydd Sul 11eg Awst 2013
Amryw Leoliad, Aberhonddu, Powys

Wedi'i ynysu yn nhirwedd ddramatig Parc Cenedlaethol y Bannau, mae Aberhonddu wedi cyfnewid cerddwyr am jazzwyr penwythnos diwethaf gyda bwrlwm creadigol cyffrous.

Roedd chwech o leoliadau prydferth yn cyflwyno rhai o'r perfformwyr jazz Prydeinig a Rhyngwladol gorau gyda chyffro ar gorneli'r strydoedd gyda bysgio, bandiau pres a hisian barbiciw. Dyma Jazz Aberhonddu 2013, ac roedd yr haul wedi dod draw hefyd.

Mae'r ŵyl o fri wedi bod yn uchafbwynt calendr cerddoriaeth Cymru am bron i 30 mlynedd ac efo'r nifer o gyngherddau yn cael ei gynyddu traean o gynnig 2012 roedd rhestr y perfformwyr yn ysbrydoledig unwaith eto. Tra roedd y cymysgedd deinamig o Gilad Atzmon a Courtney Pine a'i House of Legends yn serennu ar ddydd Gwener gyffrous, dim ond ar y bore Sadwrn oeddwn i yn gallu cael ar yr A470 a mynd yn syth am Theatr Brycheiniog. Yma roedd Anthony Strong o Croydon yn darparu'r awyrgylch gwych ar gyfer prynhawn o ymlacio, gyda'r band o bedwar oedd gydag ef yn darparu cyflwyniad esmwyth i'r ŵyl. Mae'r jazz masnachol sydd wedi'i ysgrifennu yn dda gan Strong wedi ei helpu i ffrwydro ar y siartiau jazz ac roedd ei berfformiad yn wledd ar ôl cinio. Mae fel Michael Buble Prydeinig, sydd yn fwy diddorol yn gerddorol ac yn berffaith i dy nain.

Trwy'r penwythnos roedd yn anodd peidio sylweddoli ar y diffyg ffans jazz ifanc oedd yn bresennol, ond roedd y nifer o fyfyrwyr oedd yn perfformio yn arddangosiad Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yn dystiolaeth glir bod jazz yn fyw ac yn barod i frathu. Gyda help profiadol cyfarwyddwyr gwadd Huw Warren, Iain Ballamy a Steve Waterman, roedd yr ensemble yn creu argraff dda gyda threfniadau jazz cyfoethog a chyfansoddiadau gafaelgar gan fyfyrwyr a graddedigion newydd. Mewn man arall, roedd y triawd Sgandinafaidd a Phrydeinig Phronesis yn ôl i greu argraff gyda'u sain ychydig yn arbrofol a dychmygus gwyllt. Yn cael ei arwain gan y chwaraewr dwbl bas Danaidd swynol Jasper Holby, roedd cynhesrwydd fflach llygaid y triawd yn symud trwy'r sain chwareus ond cnawdol, oedd yn tynnu sylw'r gynulleidfa amser te.

Tra roedd y Roller Trio yn ychwanegu eu cymysgedd bygythiol o riffs swagro-roc, sacs dolennog a drymiau ffyrnig, roedd Beloved gan Django Bates yn dychwelyd i'r ochr fwy tra-chywir o'r genre, gyda fersiynau archwiliedig y pianydd o gyfansoddiadau clasurol Charlie Parker. Yn gwisgo crys-t gyda dafad arno arweiniodd Bates ei driawd trwy rediad iasol o'i albwm newydd Confirmation ac, yn absenoldeb y prif berfformiwr Mavis Staples, llwyddodd i orffen y nos Sadwrn yn fuddugoliaethus.

Cychwynnodd y dydd Sul gyda Gwasanaeth Gŵyl Jazz arbennig yn Eglwys Gadeiriol brydferth Aberhonddu ac ar ôl denu tua 700 o bobl, ymddangosai'r dorf oedd yn bresennol ym Mhedwarawd Laura Jurd yn yr un lleoliad yn wylaidd, ond roedd ei chyfansoddiadau gwreiddiol profoclyd, gyrrwyd gan ei chwarae trymped mynegiannol ac eneidiol, yn mesmereiddio. Roedd cyfeiliant y pianydd Elliot Galvin yn cael gofod i greu argraff yn Oh So Beautiful a drymio pwyllog gan Corrie Dick yn carpedu sain eang y triawd.

"Cerddoriaeth ydy'r unig iaith fyd-eang," cyhoeddodd Celia Mur, cerddor gwadd gyda'r Pedwarawd Arturo Serra anhygoel yn Neuadd y Dref. Roedd y cyflasyn Sbaeneg fel Caravan gan Ellington yn adfywiol, gyda'i wylofain fflamenco yn cyfarfod fflyrt fibraffon esmwyth Serra. Hyfryd.

Yn Neuadd y Farchnad roedd llais gwadd Roland Gift o'r Fine Young Cannibals, Ruby Turner a Louise Marshall, a'r trombonydd mawr ei glod Rico Rodriguez a'r pianydd, arweinydd band a chyflwynydd teledu a radio poblogaidd Jools Holland gyda'i Rhythm & Blues Orchestra, ac roedd Aberhonddu'n gwneud y 'boogie woogie' trwy'r nos. Roedd yr ensemble hynod o dalentog yn pweru trwy gasgliad o glasuron teimlad-da oedd yn pontio pop, roc a reggae a gallu Holland i symud torf yn rhoi awyrgylch parti ar ddiwedd penwythnos gwych.

Yn arbrofol, rhyngwladol, masnachol a chyffrous, roedd Jazz Aberhonddu unwaith eto yn profi ei hun i fod yn gwir gem y sîn cerddoriaeth Brydeinig.

Mae Gwobrau TheSprout 2013 yn digwydd ac mae gen ti tan ddydd Sul 18fed Awst i enwebu!

Digwyddiadau – Cyfarfod Grŵp Golygyddol Sprout Awst 2013

Gwybodaeth – Cerddoriaeth

Sefydliadau – Cymdeithas Jazz Gogledd Cymru

Sefydliadau – Soundscene Caerdydd

Erthyglau – Categorïau – Gwyliau

Erthyglau – Categorïau - Cerddoriaeth

Erthygl Berthnasol: Adolygiad: Jazz Aberhonddu 2013

Credyd Delwedd: Kate Hillard

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi. Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael y cyfle i ennill �50