Adolygiad: Jazz Aberhonddu 2013
"Mae Jazz yn aflonydd. Ni wnaiff aros yn llonydd a fydd o byth."
Mae'r Ŵyl Jazz Aberhonddu yn ôl am 2013.
Yn ymgorffori lled gyfan y gerddoriaeth fwyaf dylanwadol a llifol mae'r byd erioed wedi'i adnabod, mae'r ffrwydrad jazz tri diwrnod yma yn barod i feddiannu tirwedd brydferth Aberhonddu a dallu ffans cerddoriaeth gyda'r perfformiadau cymysg. Mae'r prif berfformwyr yn cynnwys yr arwres efengyl Mavis Staples, y Courtney Pine arloesol a'r unigryw Jools Holland a'i Rhythm and Blues Orchestra.
Wedi'i drefnu am y tro cyntaf yn 1984 gyda chyllideb o £100 yn unig, mae'r Å´yl Jazz Aberhonddu wedi bod yn rhoi Canolbarth Cymru ar y map cerddorol am dros 25 mlynedd diolch i'w artistiaid blaengar. Ac ar ôl i Gyngor Celfyddydau Cymru gamu i mewn i gadw pethau rhag datodiad yn 20008, mae'r swae penwythnos wedi parhau i dyfu o dan reolaeth greadigol yr hyrwyddwyr o Gaerdydd, Orchard.
Yn digwydd mewn amrywiaeth o leoliadau yng nghalon y Bannau Brycheiniog, bydd yr ŵyl yn cael ei chynnal o'r 9fed – 11eg Awst 2013 ac yn cynnig penwythnos o dalent leol, cydweithio ac enwau mawr sydd yn bwriadu ysbrydoli ac adlonni.
Yn cael ei alw'n "Ceidwad Jazz Prydeinig", mae Courtney Pine yn prif berfformiwr y nos Wener wrth iddo gyfuno cerddorion o Affrica, y Caribî ac Ewrop yn ei sioe siriol House Of Legends. Disgwylir cymysgedd o ska, mento a chalypso i gychwyn cyffro'r penwythnos.
Ar y nos Sadwrn, mae'r frenhines efengyl Mavis Staples yn barod i wynebu Neuadd y Farchnad gyda'i llais pwerus; yn aelod o'r Rock and Roll Hall of Fame ac wedi derbyn Gwobr Grammy Cyflawniad Bywyd, mae hwn yn fwciad arall sydd angen cyffroi amdano. Yn y cyfamser, mae Django Bates yn cyflwyno ei deyrnged gymeradwy i'r arwr bebop Charlie Parker, Beloved.
Mae'r gyfres o ddosbarthiadau meistr i gerddorion sydd yn digwydd dros y penwythnos a'r adloniant stryd addas i'r teulu sydd wedi'i drefnu gan Theatr Brycheiniog yn ychwanegu dimensiwn arall i'r dathliad deinamig o jazz a'r uchafbwynt ydy Jools Holland a'i Rhythm and Blues Orchestra. Gyda lleisiau Roland Gift o'r Fine Young Cannibals, Ruby Turner a Louise Marshall, mae'r pianydd, arweinydd band a chyflwynwr teledu a radio yn cyrraedd yn ffres ar ôl i'w albwm newydd The Golden Age Of Song fynd yn Aur. Mae disgwyl diweddglo aruthrol o dda i'r ŵyl.
Yn 2011, ysgrifennodd y pencampwr New Orleans, Allen Toussaint, gân fel teyrnged i leoliad prydferth Jazz Aberhonddu a'i destament ef i'r digwyddiad ydy'r hyrwyddiad gorau gallai dderbyn:
"I'm blessed as a guest of the best,
and greatest green I've ever seen
when you get me day dreaming
with a smile on my face
I reckon, I'm in Brecon."
Os yw'n ddigon da i eicon byd enwog, yna'n sicr bydd perfformwyr serol eleni yn llwyddiant gyda'r gwrandawyr. I egluro: Paid methu un o'r digwyddiadau mwyaf cyffrous ar galendr cerddoriaeth Cymru a gad i guriad calon dy haf fod yn un jazz.
Mae tocynnau, sydd yn cael eu prynu i ddigwyddiadau unigol, yn dechrau o £8 ac ar gael o breconjazz.com.
Digwyddiadau – Cyfarfod Grŵp Golygyddol Sprout Mehefin 2013
Sefydliadau Cardiff Soundscene
Erthyglau – Categorïau - Gwyliau
Erthyglau – Categorïau - Cerddoriaeth







