Adolygiad Ffilm: Paddington @ Vue Caerdydd
Gradd: PG
Cyfarwyddwr: Paul King
Serennu: Hugh Bonneville, Sally Hawkins, Julie Walters
Mae Paddington yn lyfli. Nid oes llawer mwy angen ei ddweud mewn gwirionedd.
Mae'n esiampl wych o ba mor dda gall sinema Brydeinig fod. Trwy'r ffilm, mae'r hen gysur cyfarwydd yn dod fel pan fyddaf yn gwylio Love Actually (2003) neu Harry Potter and the Philosopher's Stone (2001) eto. Roedd yr olaf yn teimlo'n ingol iawn gan fod yna ryw orgyffwrdd rhwng timau cynhyrchu'r ddwy ffilm.
Mae'r ffilm yn canolbwyntio, fel mae disgwyl, ar Paddington Bear, eicon Prydeinig blewog fyddi di'n sicr o adnabod o'i gôt dyffl glas a het lachar coch. Mae'n debyg ein bod wedi dod ar draws y stori yma fel plant, ond cyn y ffilm yma, yr unig beth roeddwn i'n ei gofio yn bersonol oedd y ddelwedd o arth wedi ei adael yn gwisgo tag bagiau o gwmpas ei wddf gydag un bawen mewn jar o farmalêd.
Y ddelwedd yma, wrth gwrs, ydy calon stori Paddington, sydd yn dilyn llwybr ffoaduriaid y rhyfel byd wrth iddo ddenig o'r Perw tywyll gan deithio'n gudd ar gwch oedd yn mynd i Lundain i chwilio am gartref newydd. I gychwyn, mae'n cael ei siomi, gan nad yw pobl Llundain yn bobl mor gymdeithasol ag yr oedd wedi credu, ond mae'r teulu Brown yn sylwi arno cyn hir. Mae Mr Brown yn bwyllog, yn poeni am y peryglon o ganiatáu bwystfil gwyllt i'w gartref, ond mae dyfalwch ei wraig a'i blant yn ei ennill ei gefnogaeth.
Yna mae'r ffilm yn canolbwyntio ar ddod o hyd i gartref parhaol yn Lloegr i Paddington, un gafodd ei addo iddo gan fforiwr bu i'w deulu gyfarfod blynyddoedd cynt. Mae'r ffilm yn cynnwys comedi a chalon, gyda'r Browns a Paddington yn rhannu eu profiad a'u gwybodaeth gyda'i gilydd ac yn dod yn fwy agos ac yn fwy derbyniol o'i gilydd. Peth roeddwn i'n gwerthfawrogi'n benodol am y ffilm oedd nad oedd jôcs sâl, dim jôcs rhechu nac ensyniadau (innuendos), dim ond hwyl teulu dilys.
Nawr, stopia ddarllen hwn a gafaela yn dy ffrind gorau, nain, neu dy degan meddal gorau i weld clasur Nadolig Prydeinig y dyfodol.
Mae CLICarlein yn gweithio gyda Vue i ddarparu tocynnau adolygu am ddim i bobl ifanc yng Nghymru. Mae gan Vue sinemâu yng Nghaerdydd, Caerfyrddin, Cwmbrân, Merthyr Tudful, Rhyl ac Abertawe. Os ydy dy Vue agosaf yng Nghaerdydd a ti eisiau adolygu rhywbeth i ni, ymuna â'n Grŵp Golygyddol ar Facebook; os mai un o'r lleill ydynt, e-bostia Ryan@CLIConline.co.uk. Mae posib edrych ar wybodaeth am y ffilmiau ar www.myvue.com.
Darganfod Tebyg:
Erthyglau - Chwaraeon a Hamdden
Sefydliadau - Yr Academi Ffilm Ieuenctid Cenedlaethol
Sefydliadau - Media Academy Cardiff
*Cyflwyna dy stwff i'w gyhoeddi yma*