Adolygiad: Eddie Izzard Yn Fyw
Eddie Izzard – Force Majeure
Arena Motorpoint, Caerdydd
Dydd Gwener 17 Mai 2013
Mae'r syniad o ddigrifwyr yn chwarae arena yn wastad wedi teimlo'n eithaf estron i mi. Un dyn ar y llwyfan, miloedd o bobl ddisgwylgar yn y gynulleidfa, a dim ond jôcs i'w gadw ar y wyneb. Dydy'r syniad yma ddim yn poeni Eddie Izzard.
Yn disgrifio ei hun fel ''trawswisgwr gweithredol", mae'n dod i'r llwyfan yn Arena Motorpoint gyda laserau o'i gwmpas, fel James Bond – ond mewn sodlau. Gan fod hwn yn ddyddiad ychwanegol yng Nghaerdydd, mae'n cael croeso cynulleidfa gweddol fawr, ond nid wedi'i werthu allan.
Ffynhonnell gyntaf comedi Eddie? Aberth dynol. Ar ôl ennill dilyniant am ei sarhad, mae'r dorf yn gwybod yn union beth i'w ddisgwyl gan Izzard, ac mae'n cychwyn y noson fel mae'n bwriadu iddo fynd yn ei flaen – ar hap.
Nid yn un i lynu at arsylliad dydd i ddydd, mae set Izzard mewn dull diwylliannol, gyda'r gynulleidfa yn derbyn diweddariad hanes byrfyfyr, yn ogystal â Ffrangeg Dwbl.
Mae'r hanner cyntaf yn archwilio amrywiad o bynciau, o drafferthion Duw gyda'i iPad newydd, i feddwl os oedd y Rhufeinwyr yn blymwyr ffasgaidd mewn gwirionedd, yn cael eu harwain gan Cesar 'chicken', mewn ffurf iâr go iawn.
Mae Izzard yn ramblo gydag awch, yn dechrau golygfeydd eang gydag amryw gymeriadau. Mae'r sgitiau yma yn aml yn gorffen yn ddoniol iawn gydag ef yn gofyn a yw'r ergyd (punchline) wedi cael ei gyflawni eto, ac yna'n cogio cymryd nodiadau ar y rhannau oedd ddim yn 'gweithio'. Mae'r hiwmor aflêr yma yn cael ei dderbyn yn dda iawn gan gynulleidfa gyfarwydd.
Mae teitl y sioe, Force Majeure, yn cyfieithu i 'weithred Duw' ac felly mae tipyn o amser yn cael ei roi i drafod ei sancteiddrwydd, a'i enw, rydym yn dod i ddeall, ydy Steve. Hefyd, mae sioe Izzard yn cyfeirio at ei orffennol digrifwr ar ei sefyll; mae mwy o esboniad yn cael ei ychwanegu i'w olygfa enwog o'r 'Death Star Canteen' [Nodyn Is-Olygydd: yn cynnwys iaith gref], ac roedd cwpanau Cake or Death? Ar werth ar y bwrdd nwyddau – ynghyd â sialc i farcio dy ddewis.
Roedd chwerthin mwyaf (ac ebychu mwyaf) y noson yn mynd i jôc Margaret Thatcher, gyda Izzard yn cael 'stand off' yn erbyn conffeti yn disgyn i'r llwyfan yn dod yn ail. Roedd meim yn cynnwys ceffyl dressage yn uchafbwynt arall, yn ogystal â'r dybiaeth nad yw dinosoriaid na'r Frenhines yn cario newid.
Mae'r sioe yn bowndio ymlaen, gyda dychymyg Izzard yn well nag un plentyn 10 oed, ond mae ganddo gynllun. Mae'n cynyddu i ffars ddiwethaf ble mae cymeriadau gorau'r noson yn chwarae oddi ar ei gilydd am fowt o fathemateg 'Middle Earth', yn gorffen y noson gyda chwerthin troelli'r ymennydd.
Mae Eddie Izzard: Force Majeure yn dychwelyd i'r Arena Motorpoint, Caerdydd ar ddydd Mercher 29 a dydd Iau 30 Mai 2013.
Sefydliad – Cwmni Theatr Ar Y Pryd Ludus Ludius
Digwyddiadau – Cyfarfod Grŵp Golygyddol Sprout Mai 2013
Gwybodaeth – Celfyddydau Perfformio
Erthyglau – Comedi
Review: Micky Flanagan @ St. David's Hall
Review: Milton Jones @ St David's Hall
DELWEDD: bfurlong trwy Compfight cc