Croeso i The Sprout! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Adolygiad: Dydd Gwener @ Beach Break Live

Postiwyd gan Tom_Bevan o Caerdydd - Cyhoeddwyd ar 28/06/2012 am 10:08
0 sylwadau » - Tagiwyd fel Gwyl, Cerddoriaeth, Yn Gymraeg

  • img
  • img
  • img
  • img
  • img

English Version

Wrth i'r gwynt udo a'r glaw tywallt ar draws De Cymru, agorodd Parc Gwledig Pembre agorodd ei glwydi i fyfyrwyr am y chweched 'Beach Break Live' blynyddol.

Daeth lluniau heulog, delfrydol a oedd yn addurno gwefan yr ?yl yng nghof pell wrth i wirionedd haf arbennig Prydain. Aeth sbectol haul i ffwrdd a'r cotiau glaw allan, ond gyda dros 300 o berfformwyr ar draws naw llwyfan i edrych ymlaen atynt, ynghyd a llu o chwaraeon eithaf, sialensiau tm, gemau traeth a gweithdai, nid oedd y tywydd ofnadwy mynd i allu lleithio ysbryd pawb.

Wrth i'r gwynt rhoi platfform ffyrnig ar gyfer y brigdonwyr barcud ar draeth Pembre cyfagos, gwelodd Dydd Gwener y brif ?yl yn darparu cerddorion i blesio'r dorf a wnaeth i bawb anghofio am y tywallt o law. Gan aros o dan orchudd, teithiais i i babell Chai Wallah; cartref detholiad amrywiol o berfformwyr llawn addewid o'r byd gwerin, hip hop, reggae a llawer mwy. Roedd llu o artistiaid yno i helpu twymo'r gynulleidfa, gyda Rodney Branigan o Texas, nawr yn byw yn Llundain yn chwarae set o felodau bywiog wrth dynnu tannau dwy gitr yn gydamserol, cyn i Heymoonshaker ychwanegu eu cymysgedd o beatbox a blues.

Wrth i'r prynhawn bwrw glaw man i mewn i'r noson, rhoddodd y prif lwyfan 'Dell' ragor o berfformiadau brif ffrwd a denodd pobl allan o gysur eu pabelli. Dangosodd rapper a chwaraeydd gitr 'Random Impulse' eiliadau o addewid gyda'r gan anthem 'Overload' ond roedd gweddill y set yn dangos rywfaint o fformiwla a diffyg amrywiaeth a oedd angen arno i fod yn gofiadwy. Mewn cymhariaeth, bu MC Clement Marfo & The Frontline o Dde Llundain yn afaelgar gyda s?n mwy deinamig, gyda'r alaw 'Champion' yn sefyll allan yn adlewyrchu'r geiriau ysgogol oedd clywed trwy gydol y perfformiad, yn berffaith ar gyfer yr haf Olympaidd.

Gyda'r dorf yn gyffrous ac yn barod i'r parti barhau, yn wir ni wnaeth Delilah cadw'r safon wrth iddi ruglo drwy ei set o ganeuon pop gormesol; yn seiliedig ar y perfformiad hwn efallai fydd hi'n ymdrechu i ffeindio  llwyddiant mewn marchnad yn ddirlawn gyda chantorion benywaidd. Ond yna camodd uchafbwynt prif lwyfan Nos Wener, seren Hackney, Maverick Sabre, gyda'i groesiad slic rhwng R’n’B a Soul hiraethus am berfformiad llawn steil. Wedi ei ddisgrifio fel yr "Amy Winehouse gwrywaidd" gan Huw Stephens BBC Radio 1, mae llais emosiynol, grutiog a geiriau gwleidyddol

Yn cau'r noswaith ar y prif lwyfan oedd Chase & Status, yn chwarae’n fyw i'w cymysgedd clwb o 'drum ‘n’ bass, breakbeat a dubstep a llifodd ar draws Parc Gwledig Pembrey wrth i'r awyr dywyllu. Roedd y llinyn o yn cynnwys 'Against All Odds', 'End Credits' and 'Let You Go' ac er ar adegau roedd gorgynhyrchiad traciau wedi'i recordio yn meddwl fod ansawdd y s?n byw yn ymddangos yn ddi-liw i gymharu, roedd y set ar y cyfan yn llawn egni ymledol a dawn. Nhw arweiniodd y ffordd ar gyfer y DJ's hwyr, yn cynnwys 'Nero' poblogaidd iawn i gael y bobl ifanc yn dawnsio i mewn i fore dydd Sadwrn yn Fforest Merlin ceudyllog a'r Palas 'Ghetto' chwyslyd. Erbyn hyn roeddwn i'n oer, yn wlyb ac wedi defnyddio pob 'move' dawns oedd gen i oriau'n l, felly roedd yn amser gwely.

Adroddiadau ar Ddydd Sadwrn a Dydd Sul i ddod yn fuan.

Newyddion  Categorau  Cerddoriaeth

Newyddion  Categorau  Gwyl

Gwybodaeth  Chwaraeon a Hamdden  Y Celfyddydau Perfformio  Cyngherddau, Digwyddiadau a Gwyliau

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi. Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael y cyfle i ennill �50