Croeso i The Sprout! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Adolygiad: Dydd Iau Gŵyl Y Dyn Gwyrdd 2013

Postiwyd gan dirty o Caerdydd - Cyhoeddwyd ar 16/08/2013 am 12:06
0 sylwadau » - Tagiwyd fel Gwyl, Cerddoriaeth

  • green

English version // Yn Saesneg

Gwyl y Dyn Gwyrdd
Ger Crucywel, Powys
Dydd Iau 15fed - Dydd Sul 18fed Awst 2013

Nos Iau oedd noson agoriadol Y Dyn Gwyrdd, gyda dim ond y llwyfan Far Out a'r llwyfan Chai Wallah yn agored ar gyfer cerddoriaeth a dawnsio.

Yn gyntaf roedd y band o Fanceinion sy'n disgrifio ei hun fel "Ethio-Tradd, Hop Gwerin a pop Barrel-house" yn perfformio ar y llwyfan Far Out yn fuan ar y noson. Band 'sassy' yn cynnwys cymysgedd eclectig o offerynnau gan gynnwys harmonica, gitâr roc blues a sacsoffon. Roedd y canwr efo ansawdd tebyg i Adele, ac rydym yn edrych ymlaen at weld nhw yn y blynyddoedd sydd i ddod mewn gwahanol bebyll a llwyfannau. Trodd i mewn i dipyn o 'hoedown', gan gynnwys sbectols 3D a megaffon. Roedd Resonators yn fand dylanwad reggae-dub 'skanky', yn defnyddio adleisio ac effeithiau a cherddorion pres-byw. Roedd lleisiau benywaidd yn canmol y grŵp.

Yn serennu ar Lwyfan Far Out nos Iau ac yn agor Gŵyl y Dyn Gwyrdd oedd y cerddor o Efrog Newydd Patti Smith. Daeth yn enwog yn ystod dyddiau pync Efrog Newydd, yn cael ei arwyddo ac yn recordio ei albwm eiconig cyntaf Horses cyn The Ramones hyd yn oed. Un o'r cerddorion benywaidd mwyaf dylanwadol erioed, mae Smith hefyd yn fardd ac awdur medrus, rhyddhaodd ei chofiant Just Kids yn 2010 i gymeradwyaeth beirniaid, ac enillodd y Wobr Llyfr Cenedlaethol.

Yn perfformio gyda Tony Shannahan ar noson ddiwethaf ei thaith Ewropeaidd, roedd y perfformiad yn eclectig, egniol a chyffrous. O oreuon y siartiau fel Because The Night i'r encôr o'r gân roc tri chord Power To The People, chwaraeodd Smith Elegie hefyd, cân roedd hi'n esbonio oedd yn "anodd" iddi hi berfformio. Yn ei ganu fel teyrnged i'w chynbartner Allan Lanier, cerddor o'r Blue Öyster Cult bu farw wythnos yma. Cyfnewidiodd ei gitâr am y piano ar gyfer y perfformiad teimladwy ac agos yma. Roedd Smith yn bresenoldeb llwyfan carismatig a rhagorol.

Chwaraeodd Riddim Fruit All-Stars, label record o Ddyfnaint, cymysgedd o ffync-'glitch',  reggae a jazz yn y babell Chai Wallah, oedd yn parhau tan oriau man y bore. Yn ogystal i'r myrdd o gerddoriaeth roedd Gardd Einstein, Babbling Tongues, y Babell Sinema a cymaint mwy.

Heddiw gan fod yr holl lwyfannau yn agored, byddwn yn gweld cymaint ag sy'n bosib, yn enwedig Kings of Convenience sydd yn serennu heno.

Dilyna ni ar Twitter a Facebook am y diweddariadau diweddaraf!

Mae Gwobrau TheSprout 2013 yn digwydd ac mae gen ti tan ddydd Sul 18fed Awst 2013 i enwebu!

Digwyddiad – Cyfarfod Grŵp Golygyddol Sprout Awst 2013

Gwybodaeth – Cerddoriaeth

Sefydliadau – Soundscene Caerdydd

Erthyglau – Categorïau – Gwyliau

Erthyglau – Categorïau – Cerddoriaeth

Erthyglau Perthnasol:

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi. Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael y cyfle i ennill �50