Croeso i The Sprout! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Achub Cymru O'r Gymraeg?

Postiwyd gan MarshMallo o Caerdydd - Cyhoeddwyd ar 05/12/2012 am 17:20
0 sylwadau » - Tagiwyd fel Diwylliant, Addysg, Pobl

  • cymru

English version // Yn Saesneg

Yn yr ysgol, rydym wedi cael erthygl yn ddiweddar o'r Daily Mail o'r enw 'Save Wales From The Welsh: Children told they can't go to the loo if they ask in English. Architects shunned if their plans aren't in Welsh. ROGER LEWIS on the nutty Welsh Language Society.' Maent wedi gofyn i ni ymateb a mynegi ein barn.

Gall weld yr erthygl yma, er dwi'n meddwl bod y fersiwn ar-lein wedi cael ei newid ers i ni ei ddarllen yn yr ysgol. Mae ychydig o eiriau yn cymharu Cymdeithas yr Iaith Gymraeg gyda'r Taliban wedi cael eu tynnu.

Mae'r erthygl yn dweud bod plentyn yng Ngheredigion ddim wedi gallu mynd i'r toiled am nad oeddent wedi gofyn i gael mynd yn Gymraeg. Mae hyn yn nonsens llwyr! Ni fydda ofyn ar y plentyn yma i ofyn yn Gymraeg os nad oeddent yn mynd i ysgol iaith Gymraeg, ac mae "Gaf i fynd i'r tÅ· bach?" yn dasg syml iawn i rywun sydd wedi bod yn dysgu Cymraeg o oed ifanc.

Ar y llaw arall, mae'r erthygl hefyd yn dweud bod plant yn cael eu hanwybyddu am siarad Saesneg. Mae hyn yn rhannol wir: mewn ysgolion iaith Gymraeg mae plant yn cael eu hannog i siarad Cymraeg yn eu hamser hamdden ac yn cael eu cosbi am siarad Saesneg. Dydy'r rheol yma prin yn cael ei orfodi a dyw'r gosb ddim yn rhywbeth mawr, ond dwi yn cytuno, ni ddylid cael cosb o gwbl. Ond yna, sut mae'r ysgolion yn mynd i annog plant i siarad Cymraeg? Mae mwy a mwy o bobl eisiau mynd i ysgolion iaith Gymraeg, ond mae'r nifer o bobl sydd yn siarad yr iaith yn aros yr un peth ar y cyfan.

Mae Roger Lewis yn esbonio ei fod yn Gymro ac yn falch o hynny. Dwi'n amau yn fawr ei fod yn falch o'i wreiddiau, wrth iddo fynd yn ei flaen i ladd ar yr arwyddion Cymraeg ar bethau yng Nghymru. Mae'n dweud nad oes rheswm i roi 'tacsi' ac 'ambiwlans' ar ochr ein trafnidiaeth gyhoeddus. Dwi'n anghytuno – er bod sillafiad ac ynganiad y geiriau hyn yn debyg iawn i'r Saesneg, dwi'n teimlo balchder pan fyddaf yn eu gweld. Dwi'n hoffi mynd i Loegr a gweld diffyg arwyddion Cymraeg oherwydd mae'n ychwanegu gwahaniaeth rhwng y gwledydd. Beth yw'r pwynt o fyw yng Nghymru os nad yw Cymraeg o dy amgylch?

Mae'n disgrifio Cymraeg fel iaith o 'regional backwardness' a Saesneg fel iaith 'social and economic advancement'. Mae Cymraeg wedi mynd, mae yn y gorffennol, mae Saesneg yn y dyfodol, dyna sy'n rhaid canolbwyntio arno. Dyna'r neges mae'r ysgrifennwr Daily Mail yn dangos i ni. Mae'n dweud ei fod eisiau dysgu Cymraeg gan fod ganddo ddiddordeb mewn pethau coll. Mae Cymraeg wedi'i golli ym marn Lewis. Dwi erioed wedi clywed sarhad brwdfrydig o'r blaen, felly clod am hynny, Mr Lewis.

Mae awdur yr erthygl yn methu cael gafael ar y syniad o fod yn ddwyieithog: "One architect told me that he can't get his plans through unless he submits them in Welsh yet those youngsters being educated exclusively in Welsh are also going to be a bit stuck. Where else can they go but Wales? Patagonia? They are ill-equipped for anywhere else the other side of the Severn Bridge." Yna mae'n camddeall sut gall person ddysgu trydedd iaith: "How can you teach French in Welsh to children who think in English? It creates a maze of confusion."

Dwi'n ddwyieithog ac yn falch ohono. Os byddwn i yn ceisio am waith yn Lloegr (ac yn tybio byddai symud ddim yn broblem), byddwn i efo cymaint o gyfle â pherson Saesneg gyda'r un cymwysterau. Ond dwi hefyd yn gallu siarad iaith fy ngwlad. Mae'n rhaid i hynny gyfrif am rywbeth? Dwi hefyd eisiau dweud mod i'n dysgu Almaeneg fel ail iaith (gan fod Cymraeg a Saesneg yn eithaf cyfartal i mi a dysgais y ddau ar yr un pryd) a dwi'n pasio trwy'r gwaith yn dda iawn. Mae'r athrawon yn rhoi awgrymiadau i ni ar sut i gofio pethau, ac mae bod yn ddwyieithog yn helpu lot. Mae 'Pont' yn golygu'r un peth mewn Cymraeg a Ffrangeg ac mae cyfieithu Cymraeg llafar (sydd yn llawer mwy rhydd na Chymraeg ysgrifenedig) yn dy ben yn hawdd iawn i berson sydd yn ddwyieithog yn rhugl. Nid yw'n broblem ym mha iaith maent yn dysgu'r ail iaith.

Mae Lewis yn barnu ysgolion am annog mamau i ddarllen llyfrau Cymraeg i'w plant yn hytrach nag rhai Saesneg. Os wyt ti'n dysgu iaith, fe ddylet ti ddarllen ef. Mae pawb yn gwybod hynny. Mae Cymraeg yn anoddach i bobl ddysgu yn gyffredinol, hyd yn oed o oedran ifanc, a dyma pam dylem annog dysgu yn fwy nac erioed. Rydym yn dal i orfod dod dros y Welsh Not! Mae Lewis yn dweud bod plant yn ofn siarad Saesneg gartref, ac felly bod Cymdeithas yr Iaith Gymraeg fel y Cytundeb Warsaw. Mae yna lawer o rieni ddim yn gallu siarad Cymraeg ac os gallan nhw, yna gallan nhw siarad beth bynnag. Dyw pobl ddim dan bwysau gartref. Hyd yn oed yn ystod amser y Welsh Not, roedd plant yn rhydd i siarad beth bynnag oeddent eisiau yn eu cartrefi, ac mae'r un peth yn wir nawr.

Beth wyt ti'n feddwl? Oes yna ormod o Gymraeg yng Nghymru, neu wyt ti'n meddwl bydda tynnu'r Gymraeg yn tynnu'r teimlad o'r lle Cymraeg yna? Dwi'n bendant yn cytuno efo'r ail un.

Gwybodaeth – Addysg

Gwybodaeth – Gwahaniaethu

Erthyglau Perthnasol:

DELWEDD: Leo Reynolds

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi. Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael y cyfle i ennill �50