101010 Yng Nghymru
English version
Beth fyddi di'n ei wneud ar 101010 yng Nghymru?
Dydy’r dyddiad yma ddim yn digwydd yn aml, felly hoffwn roi gwadd i ti farcio’r diwrnod drwy rannu llun sydd yn dogfennu dy Hydref 10 2010 yng Nghymru. Y dydd Sul hwn gyda llaw.
Ble bynnag yr wyt ti, a beth bynnag ti’n ei wneud gall fod yn syrffio ym Mhorthcawl, cerdded ar hyd y prom yn Llandudno, sownd mewn lifft yng Nghaerdydd neu siopa yng Nghaerfyrddin byddem wrth ein boddau gweld dy lun / ffotograff / dwdl / darlun / fideo.
Gwybodaeth bwysig
- Ar agor i bawb sydd yng Nghymru ar 101010
- Ar agor i BOB lefel o allu
- Rhaid i ti fod yn berchen ar hawlfraint y darlun (mai ti sydd wedi ei dynnu! dim dwyn oddi ar google ;) )
- Rhaid i’r llun/fideo/darlun fod wedi ei dynnu neu ei wneud ar ddydd Sul 10 Hydref 2010
- Gall unrhyw lun/fideo/darlun sydd yn cael ei gyflwyno cael ei gyhoeddi ar CLIC (bydd gen ti linc yn l ac yn cael dy gredydu)
- Cynnwys dy gategori oed a lleoliad (0-11, 11-16, 17-25)
- Bydd y dewis terfynol yn cael ei gyhoeddi ar-lein ar CLIC a Flickr (os nad wyt ti’n hapus efo hynny, pls paid chyflwyno dim)
- E-bostia dy ddelwedd i alex@cliconline.org.uk gyda chategori oed / lleoliad, llwytha i fyny i grŵp flickr/facebook neu cyflwyno gyda stori o’r enw 101010 drwy CLICarlein.co.uk
Mwynha!
