'Nadolig' gan Laolu
Mae Meic yn gwybod nad yw pawb yn teimlo fel dathlu adeg Nadolig. Esboniodd pobl ifanc wrth Meic yr effaith mae Nadolig yn cael arnyn nhw. Dyma stori Laolu.
Gellir gwylio video ar gyfer Stori Laolu ar ochr y dudalen hon.
Ti'n gwybod y poeni ti'n ei deimlo bob nos Sul?
Pryderu am yr wythnos o dy flaen di, a chosbi dy hun am wastraffu'r penwythnos?
Lluoswch hyn gyda 52. Dyna sut mae'r Nadolig yn gwneud i mi deimlo.
Rhywbryd yn ystod fy arddegau, dechreuodd y Nadolig golli ei ystyr. Yn llai am yr anrhegion, y carolau a'r bwyd, ac yn fwy am yr ofn mawr o fynd yn hen.
Mae'n ymwneud â sut mae amser fel sbiral ddiddiwedd, sydd ddim yn arafu ar gyfer dy ddiffygion.
A'r bwyd. Mae'r bwyd yn bwysig bob tro.
Mae'r Nadolig wedi dod yn gyfnod i edrych yn ôl ar fethiannau'r flwyddyn. A'r llwyddiannau hefyd, ond mae rhaid cofio bod gallu rhai pobl i deimlo'n "ddiolchgar" neu'n "optimistaidd" yn amhosib oherwydd rhesymau meddygol.
Heb anghofio'r terfynau amser. Eleni roedd angen i mi gyflwyno 4 traethawd yn ail wythnos mis Ionawr.
Dim i'w pechu, ond dydy'r syniad o dreulio Noson Calan yn y llyfrgell, yn llawn caffein gyda'r 'nerds' eraill ddim yn fy nharo fel adeg gorau'r flwyddyn.
Felly'r teimlad sâl yna dwi'n ei gael wrth weld y goleuadau'n dechrau fflachio ym mis Tachwedd?
Dwi angen pob eiliad y caf i.
Os wyt ti angen rhywun ar dy ochr di dros y Nadolig, mae Meic ar gael 24/7, 365 diwrnod y flwyddyn...hyd yn oed ar ddiwrnod Nadolig. Gellir sgwrsio ar IM yma, tecstio (84001) neu ffonio 080880 23456.