Gwybodaeth » Tai » Digartrefedd » Bod yn Ddigartref
Bod yn Ddigartref
Gall bod yn ddigartref fod yn brofiad brawychus ac unig. Nid yw bod yn ddigartref yn golygu dy fod yn cysgu ar y strydoedd o reidrwydd, mae’n golygu nad oes gennyt gartref.
Er enghraifft, gellir ystyried dy fod yn ddigartref os byddi'n:
- Cysgu yng nghartref teulu neu ffrindiau dros dro
- Aros mewn llety gwely a brecwast dros dro
- Byw mewn llety anaddas neu beryglus
- Byw yn rhywle nad oes gennyt hawl cyfreithiol i aros yno (sgwatio)
Os wyt yn ddigartref, mae’n rhaid i ti gysylltu â dy awdurdod lleol i gael cymorth a chyngor cyn gynted ag y bo modd, a dylet gysylltu â Shelter Cymru i gael rhagor o gymorth.
- Ceisia ganfod rhywle diogel i aros. Mae hostelau a llochesi ar gael ar gyfer pobl ddigartref, ond yn aml iawn, byddant yn brysur, felly paid â dibynnu arnynt
- Efallai bydd ffrindiau neu deulu’n fodlon cynnig to dros dy ben, neu os galli fforddio hynny, gallet aros mewn llety gwely a brecwast. Paid â bod yn rhy falch i ofyn am gymorth. I gael rhagor o gyngor ynghylch canfod lle i aros, darllena ein hadran Sut i osgoi Digartrefedd
- Mae cysgu allan yn beryglus iawn ac yn ddewis pan petho popeth arall. Darllena’r adran Cysgu Allan i gael cyngor ynghylch cadw’n ddiogel os byddi yn y sefyllfa honno