Croeso i The Sprout! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gwybodaeth » Iechyd



Iechyd

Bydd y tudalennau canlynol yn rhoi gwybodaeth i ti am iechyd a gofalu amdanat ti dy hun. Gall gael help a chyngor ar amrywiaeth o bynciau o bryderon alcohol i berthnasau rhywiol.

Mae cael cyngor ar faterion iechyd yn gallu bod yn gysurol gan fyddi di'n aml yn darganfod bod rhywbeth oeddet ti'n poeni oedd yn broblem yn gwbl naturiol ac nad oes dim i boeni amdano.

Mae'n hanfodol trafod pryderon iechyd cyn gynted â phosib. Yn y rhan fwyaf o achosion o salwch a phroblemau mae pobl yn cael eu trin a'u gwella, ac yn mynd ymlaen â'u bywydau yn hapus ac yn iach.

Mae yna wybodaeth yn yr adran hon am benderfyniadau iechyd a ffordd o fyw fel alcohol, ysmygu a chamddefnyddio sylweddau. Mae yna hefyd wybodaeth am broblemau iechyd meddwl, sef maes y mae llawer o bobl yn ei chael yn anodd siarad amdano.

Fe ddylai’r holl wybodaeth a dolenni i wefannau eraill ble mae posib cael cyngor proffesiynol, darganfod llinellau cymorth a chwilio am bryderon penodol, helpu ti i wneud penderfyniadau a dewisiadau deallus am dy iechyd.

I gael gwybodaeth a chyngor ar yr holl faterion iechyd cer i www.nhsdirect.nhs.uk neu www.nhsdirect.wales.nhs.uk neu ffonia'r llinell gymorth ar 0845 4647.

Related Media

Useful Links

--->

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi. Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael y cyfle i ennill �50