Gwybodaeth » Iechyd » Iechyd a Materion y Corff » Asthma
- Maetheg
- Gordewdra
- Gweithgaredd Corfforol
- Llysieuwyr a Feganiaid
- Anemia
- Diabetes
- Asthma
- Alergeddau
- Clefyd y Gwair
- Ecsema
- Croen a Sbotiau
- Torheulo a Chael Lliw Haul
- Tatŵs a Chelf y Corff
- Atal Dweud
- Heintiau Wrin a Gwlychu
- Arogleuon y Corff
- Tarwden y Traed
- Cur Pen a'r Meigryn
- Cysgu
- Epilepsi
- M.S.
- M.E.
- M.D.
- Llid yr Ymennydd
- Canser
Asthma
Mae yna fwy na 314,000 o bobl ag asthma yn byw yng Nghymru (www.asthma.org.uk)
Mae asthma yn gyflwr sy’n effeithio ar dy bibelli gwynt. Daw yn anodd anadlu wrth i'r pibelli gwynt gulhau a llidio (inflame).
Ymhlith y symptomau mae:
- Diffyg anadl
- Brest dynn
- Llygaid sy’n chwyddo ac yn dyfrio
- Gwich ar y frest a pheswch
Gall asthma gael ei achosi gan:
- Anwyd a pheswch
- Llygredd yr awyr
- Blew anifeiliaid
- Mwg sigaréts
- Llwch
- Mygdarthau cryf
Bydd pwl o asthma yn digwydd wrth i’r pibelli gwynt chwyddo, wrth iddynt lenwi â mwcws ac wrth i fandiau’r cyhyrau dynhau. Mae hyn yn ei gwneud yn anodd cael aer i mewn ac allan o’r ysgyfaint, sy’n ei gwneud yn anodd anadlu.
Er nad oes unrhyw beth i wella asthma yn llwyr, fe fydd y driniaeth iawn yn helpu. Cer i weld y meddyg i gael cyngor ar driniaethau.
Gall y rhai sy’n dioddef o asthma ddefnyddio cymysgedd o esmwythwyr ac atalwyr:
- Esmwythwyr: yn ymlacio’r cyhyrau yn ystod pwl, gan ddarparu rhyddhad dros dro
- Atalwyr: gall dosys rheolaidd atal pyliau a rheoli'r chwyddo yn y pibelli gwynt