Croeso i The Sprout! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gwybodaeth » Arian » Arian Tra'n Gweithio » Isafswm Cyflog



Isafswm Cyflog

Lle bynnag yr ydwyt yn gweithio, a beth bynnag yr ydwyt yn ei wneud, os ydwyt dros yr oedran gadael ysgol (https://www.gov.uk/know-when-you-can-leave-school) mae gennyt yr hawl i dderbyn dros swm penodol o arian yr awr am y gwaith hwnnw. Yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol (ICC) yw hwn.

Mae’r ICC yn newid yn ôl dy oed. Er enghraifft, fe fyddi di'n cael mwy pan fyddi di wedi cael dy ben-blwydd yn 18 oed nag a gefaist pan oeddet ti’n 16 oed. Pedwar band yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol (ICC) yw 21 a throsodd, 18 i 20, o dan 18 (ond yn uwch na'r oedran gadael ysgol) a Phrentis.

I gael rhestr lawn o'r cyfraddau ICC cyfredol, ymwela â gwefan Cyngor ar Bopeth. Fel arfer, mae'r cyfraddau yn cael eu diweddaru bob mis Hydref.

Edrychwch ar y gyfrifiannell hon ar gyfer gweithio allan os ydwyt yn cael yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol.

Mae gennyt yr hawl gyfreithiol i dderbyn isafswm cyflog, oni bai dy fod di:

  • O dan yr oedran gadael yr ysgol - yng Nghymru, gallet adael yr ysgol ar y dydd Gwener olaf ym mis Mehefin, cyn belled ag y byddet yn 16 erbyn diwedd gwyliau'r haf y flwyddyn ysgol honno
  • Yn brentis. Nid yw prentisiaid rhwng 19 a 25 oed yn gymwys i dderbyn yr isafswm cyflog cenedlaethol yn ystod blwyddyn gyntaf eu prentisiaeth. Os yw’r prentis, ar ôl blwyddyn gyntaf y brentisiaeth, dan 22 oed, yna fe fydd yn gymwys i dderbyn ICC ar y gyfradd is ar gyfer gweithwyr ifanc. Os yw’n 22 oed neu’n hŷn ar ôl blwyddyn gyntaf y brentisiaeth, fe fydd ganddo ef neu ganddi hi hawl i ICC ar y gyfradd lawn (oni bai ei fod/ei bod yn dod yn hyfforddai). Unwaith y bydd wedi cyrraedd 26 oed, bydd yn gymwys i gael yr isafswm cyflog ar y gyfradd lawn, p’un a yw ym mlwyddyn gyntaf y brentisiaeth ai peidio
  • Yn byw ac yn gweithio o fewn teulu, fel nani neu au pair. Ni fydd gennyt yr hawl i gael ICC os ydwyt yn byw yng nghartref y teulu yr ydwyt yn gweithio iddyn nhw, ac yn rhannu prydau gyda’r teulu, a thithau ddim yn gorfod talu tuag at gostau llety neu brydau bwyd
  • Yn hunangyflogedig
  • Nid yw cildyrnau a thaliadau gwasanaeth y gallet ti eu cael, os ydwyt yn gweithio fel gweinydd neu driniwr gwallt er enghraifft, yn cyfrif fel rhan o dy gyflog, ac nid ydyn nhw wedi’u cynnwys yn yr ICC
  • Am restr lawn, gweler tudalen Llywodraeth y DU ar Pwy Sy'n Derbyn Yr Isafswm Cyflog

Os nad yw dy gyflogwr yn talu’r isafswm cyflog cenedlaethol i ti, a thithau’n meddwl bod gennyt ti hawl iddo, mynna gyngor arbenigwr yn y Ganolfan Cyngor ar Bopeth, neu ffonia'r Llinell Gymorth Hawliau Tâl a Gwaith ar 0800 917 2368.

Llinell gymorth Cyflog a Hawliau Gwaith

Cymorth a chyngor ar gyfer gweithwyr a chyflogwyr am hawliau gweithwyr yn y gwaith.

Llinell gymorth Cyflog a Hawliau Gwaith
Ffurflen Ymholiadau / Ffurflen Gwyno
Ffôn: 0800 917 2368 / Ffôn Destun: 0800 121 4042
Dydd Llun i Ddydd Gwener, 8am i 8pm, Dydd Sadwrn, 9am to 1pm
Cael gwybod am gostau galwadau

Mae'r gwasanaeth am ddim ac yn gyfrinachol. Mae gan y llinell gymorth hon gwasanaeth cyfieithu am ddim sydd ar gael mewn dros 100 o ieithoedd.

Efallai dy fod wedi clywed am rywbeth o'r enw'r cyflog byw. Nid yw hyn yr un peth a'r Isafswm Cyflog Cenedlaethol. Mae'r cyflog byw yn amcangyfrif o hyn sydd ei angen i fyw yn y DU. Ar yr adeg ysgrifennu y mae'r cyflog byw yng Nghymru (a gweddill y DU ar wahân i Lundain) £7.45 yr awr.

Nid oes rhaid i dy gyflogwr dalu cyflog byw i ti, ond gallant ddewis gwneud hynny. Gallet gael gwybod mwy ar wefan y 'Living Wage Foundation'.

Gallu di gysylltu â'r Gwasanaeth Cynghori Ariannol ar 0300 500 5000 (neu 0300 500 5555 ar gyfer Cymraeg) Llun - Gwener 8am - 8pm, Sad 9am-1pm. Ceir hefyd swyddogaeth sgwrsio ar-lein ar eu safle.

Gallu di gysylltu â Meic am ddim drwy sgwrsio ar-lein, testun (84001) neu ffonia (23456 080880).

Related Media

Useful Links

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi. Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael y cyfle i ennill �50