Croeso i The Sprout! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gwybodaeth » Amgylchedd » Pobl » Masnach Deg

  • Mae ffermwyr mewn gwledydd ar hyd a lled y byd yn tyfu’r cnydau rydym ni’n eu prynu mewn siopau. Mae llawer o’r ffermwyr hyn yn derbyn cyfran bitw o’r arian rydym ni’n ei dalu am y cynnyrch
  • Mae llawer o ffermwyr yn derbyn cynlleied â £0.05 o’r £2.00 rydym ni’n ei dalu am baned o goffi cappuccino
  • Mae’r mudiad Masnach Deg yn gais i roi mwy o reolaeth i gynhyrchwyr bach dros eu bywydau, trwy roi cyfran fwy o’r pris terfynol. Mae’r mudiad hefyd yn cynnig sgiliau hyfforddi a fydd yn helpu ffermwyr i ddianc tlodi
  • Gallwn ni brynu llawer o bethau Masnach Deg erbyn hyn, fel ffrwythau, siwgr, tea a choffi, siocled, sbeisys, reis, mêl a chnau. Mae hefyd rai eitemau Masnach Deg anarferol fel peli troed, blodau, cotwm a cholur
  • Mae’r nod Masnach Deg ond yn ymddangos ar gynhyrchion sy’n gwella bywydau’r gweithwyr sy’n eu creu. Rhaid i gwmnïau roi ffordd o fyw annibynnol i weithwyr, yn hytrach na rhoi mwy o arian iddyn nhw yn unig
  • Erbyn hyn, gallwch brynu eitemau Masnach Deg mewn llawer o archfarchnadoedd. Sicrhewch fod popeth rydych yn ei brynu yn dangos y symbol Masnach Deg swyddogol. Mae hyn yn gwarantu y bydd cyfran well o’r arian rydych wedi’i dalu amdano yn mynd i’r bobl a’i cynhyrchodd
  • Mae llawer o ffyrdd y gallwch helpu i hyrwyddo Masnach Deg. Gallwch ofyn i’ch ysgol a fydden nhw’n stocio ffrwythau Masnach Deg neu sefydlu siop fwyd Masnach Deg ac annog eich rhieni i brynu cynnyrch Masnach Deg lle bo hynny’n bosibl

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi. Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael y cyfle i ennill �50