Polisi Preifatrwydd / Amodau a Thelerau
Polisi Preifatrwydd
Mae preifatrwydd ein defnyddwyr yn bwysig i ni ac rydym yn gofalu ei ddiogelu. O dan Ddeddf Gwarchod Data 1998, mae gennym oblygiadau cyfreithiol tuag atoch chi yn y modd yr ydym yn ymdrin â data a gesglir gennych. Rydym yn defnyddio technolegau diweddaraf a meddalwedd encryptio i ddiogelu eich data, ac yn cadw safonau diogelwch llym i atal unrhyw fynediad heb ei awdurdodi ato. Nid ydym yn trosglwyddo eich manylion i unrhyw drydydd parti nac adran o’r llywodraeth oni bai eich bod yn rhoi caniatâd inni wneud hynny, neu ein bod o dan rwymedigaeth neu y caniateir inni eu datgelu yn ôl y gyfraith.
Pan gofrestrwch fel defnyddiwr, byddwn yn casglu’r wybodaeth sy’n angenrheidiol i roi’r gwasanaeth sy’n cynnwys fel isafswm, eich enw a’ch cyfeiriad e-bost. (Gofynnir i sefydliadau lenwi ffurflen gofrestru CLICarlein). Wedi i chi gofrestru, gallwch ailedrych ar eich proffil unrhyw bryd i ddiwygio’r manylion hyn neu i roi manylion ychwanegol.
Byddwn hefyd yn casglu gwybodaeth gennych os ydych yn llenwi unrhyw ffurflenni eraill ar ein safle neu os cysylltwch â ni gyda sylwadau neu geisiadau penodol. Rydym yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol i ddarparu gwasanaeth a bersonolir i bob un o’n hymwelwyr. Rydym hefyd am roi rheolaeth i chi ar beth a dderbyniwch o ganlyniad i gofrestru gyda CLICarlein. Rydym yn casglu gwybodaeth yn awtomatig am eich ymweliad i’n safle. Defnyddir yr wybodaeth hon i wneud eich ymweliad i’n safle mor effeithlon â phosibl, ac i’n helpu i ddilyn hoffterau pori ar ein safle fel y gallwn wneud gwelliannau rheolaidd.
Dolennau
Trwy gydol gwefan CLICarlein byddwch yn darganfod dolennau hyperdestun i leoliadau eraill ar y Rhyngrwyd. Defnyddir y dolennau hyn i bwrpas gwybodaeth yn unig ac ni chymerir unrhyw restriad fel cefnogaeth o unrhyw fath.
Byddwn yn gwneud ein gorau i sicrhau bod y dolennau hyn yn briodol ar yr adeg y gosodir nhw. Nid yw CLICarlein o anghenraid yn cytuno gyda’r farn a fynegir o fewn y gwefannau cysylltiedig hyn ac nid oes gan CLICarlein unrhyw reolaeth drostynt.
Ni all CLICarlein warantu fod y dolennau hyn yn ddibynadwy na p’run ai ydynt yn gweithio ai peidio bob amser.
Cwcis
Mae llawer o wefannau yn gosod cwcis pryd bynnag y mae defnyddiwr yn ymweld â’u safle, er mwyn tracio llif y drafnidiaeth. Mae cwcis yn ffeiliau testun sy’n adnabod eich cyfrifiadur i’r serfiwr. Gall CLICarlein ddefnyddio cwcis o bryd i’w gilydd ond dim ond i wneud eich profiad o’r we yn well. Nid ydym yn tracio ymwelwyr unigol ar y we.
Os hoffech wybod mwy am cwcis ewch i AboutCookies.org.
Cais am Wybodaeth
Gallwch ofyn am gopi o’r wybodaeth sydd gennym amdanoch chi unrhyw bryd (gallwn godi tâl bach amdano). Byddwn hefyd yn cywiro unrhyw wallau yn eich gwybodaeth pan wnewch gais am hynny.
Newidiadau i’r Polisi Preifatrwydd
Os gwnawn newidiadau i’n Polisi Preifatrwydd sy’n effeithio ar sut yr ydym yn trin eich data chi, byddwn yn rhoi gwybod i chi drwy e-bost. Gallwch wirio ein Polisi Preifatrwydd yn y dudalen hon unrhyw bryd.
Cysylltu
Os oes gennych unrhyw ymholiadau am eich gwybodaeth bersonol neu unrhyw gwestiynau am ein defnydd o’r wybodaeth, cysylltwch â’n golygydd ryan@thesprout[dot]co[dot]uk
Hawlfraint
Mae’r deunydd y rhoddir sylw iddo ar wefan CLICarlein yn ddarostyngedig i warchodaeth Hawlfraint y Goron oni bai y nodir fel arall. Rhaid i unrhyw un sy’n dymuno defnyddio unrhyw wybodaeth a ganfyddir ar y wefan hon gysylltu â’n Golygydd Cenedlaethol yn ryan@cliconline[dot]co[dot]uk. Nid yw caniatâd i atgynhyrchu deunydd a warchodir gan hawlfraint y Goron yn ymestyn i unrhyw ddeunydd ar y safle hwn a nodir fel deunydd sy’n hawlfraint trydydd parti. Rhaid cael awdurdodiad i atgynhyrchu deunydd o’r fath gan y deiliaid hawlfraint dan sylw.
Delweddau
Mae’r gair delweddau yn ymdrin â phob delwedd symudol neu lonydd, ffotograffau a logos.
Mae delweddau ar y wefan naill ai’n eiddo CLICarlein, y sefydliadau eu hunain, neu wedi eu trwyddedu oddi wrth drydydd parti. Ni all delweddau a gymerir gan drydydd parti gael eu hatgynhyrchu mewn unrhyw fformat.
Ni all rhai delweddau sy’n eiddo i CLICarlein gael eu hatgynhyrchu, gall rhai eraill gael eu hatgynhyrchu mewn rhai amgylchiadau, ond nid heb gymeradwyaeth ymlaen llaw.
Os dymunwch atgynhyrchu unrhyw ddelweddau, gan gynnwys Logo CLICarlein rhaid i chi gysylltu â ni yn gyntaf am ganllawiau ac awdurdodiad pellach. Rhowch fanylion eich sefydliad, pa ddelweddau yr hoffech eu defnyddio a sut y bwriadwch eu defnyddio.
Amodau a Thelerau
Croeso i amodau a thelerau gwefan thesprout.co.uk (“Amodau a Thelerau”), sy’n berthnasol i’ch defnydd o’r wefan hon. Drwy gyrchu at y Wefan hon, rydych yn cytuno i gael eich rhwymo gan yr Amodau a’r Telerau hyn. Darperir y Wefan hon er budd trigolion aelod o’r Undeb Ewropeaidd (“UE”) a thrigolion Norwy, Gwlad yr Iâ a Lichtenstein. Os nad ydych yn byw yn un o’r gwledydd hyn neu nad ydych yn cytuno i gael eich rhwymo gan yr Amodau a’r Telerau hyn, ni allwch ddefnyddio na chael mynediad at y Wefan hon ac mae gennym yr hawl i gyfyngu ar neu atal mynediad o’r fath. DIFFINIADAU Mae “Defnyddiwr(wyr)” yn golygu (a) defnyddiwr(wyr) y Wefan naill ai gyda’i gilydd neu yn unigol, fel sy’n ofynnol yn ôl y cyd-destun, ac eithrio mewn cysylltiad â data personol, a fydd yn ymwneud ag unigolion byw yn unig; bydd “Data Personol” yn cael yr un ystyr â’r un a gyflwynir yn Neddf Gwarchod Data 1998 (DPA 1998) a bydd yn cynnwys unrhyw fanylion personol a ddarperir gennych chi drwy’r wefan, mae “Ni/ein” yn golygu CLICarlein.co.uk, mae “Gwefan” yn golygu’r wefan a leolir yn www.CLICarlein.co.uk neu unrhyw URL dilynol a all gymryd ei le, ac mae “Chi/eich” yn golygu chi fel defnyddiwr y Wefan.
1. MYNEDIAD Byddwn yn darparu mynediad i chi i’r Wefan yn unol â’r Amodau a’r Telerau hyn.
2. EICH RHWYMEDIGAETHAU
2.1 Rydych chi:
2.1.1 yn cytuno i beidio â defnyddio’r wefan (nac unrhyw ran ohoni) i unrhyw bwrpas anghyfreithlon ac yn cytuno i’w defnyddio yn unol â’r holl ddeddfau perthnasol;
2.1.2 yn cytuno i beidio â llwytho na thrawsyrru drwy’r wefan unrhyw firysau cyfrifiadurol, macro-firysau, ceffylau Caerdroia, ‘mwydod’, neu unrhyw beth arall a fwriadwyd i ymyrryd ar neu amharu neu aflonyddu ar weithdrefn gweithredu arferol cyfrifiadur;
2.1.3 cytuno i beidio â llwytho na thrawsyrru drwy’r wefan unrhyw ddeunydd sy’n ddifrïol, yn dramgwyddus, neu o natur aflan neu fygythiol, neu a all achosi blinder, anghyfleuster neu bryder diangen
2.1.4 cytuno i beidio â defnyddio’r wefan mewn modd a all achosi i’r wefan gael ei hamharu, ei niweidio, ei gwneud yn llai effeithiol neu mewn modd fel bod effeithlonrwydd y wefan yn cael ei heffeithio mewn unrhyw fodd
2.1.5 yn cytuno i beidio â defnyddio’r wefan mewn unrhyw fodd sy’n tarfu ar neu yn torri ar hawliau unrhyw unigolyn neu gwmni (gan gynnwys, ond heb ei gyfyngu i, hawliau eiddo deallusol, hawliau cyfrinachedd neu breifatrwydd);
2.1.6 cytuno i beidio â chyhoeddi dolen hyperdestun i unrhyw ran o’r wefan na cheisio cael mynediad heb ei awdurdodi i unrhyw ran neu gydran o’r wefan; a
2.1.7 cytuno pe bai gennych hawl, hawliad neu weithred yn erbyn unrhyw ddefnyddwyr yn deillio o ddefnydd y defnyddiwr hwnnw o’r wefan, yna byddwch yn mynd ar ôl hawliad neu weithred o’r fath yn annibynnol ar a heb atebolrwydd i ni.
3. INDEMNIAD
Rydych yn cytuno i fod yn gwbl gyfrifol am a’n hindemnio ni yn llawn yn erbyn pob hawliad, cyfrifoldeb, difrod, colledion, costau a threuliau, gan gynnwys ffioedd cyfreithiol, a ddioddefir gennym ni ac sy’n codi o dorri unrhyw Amodau a Thelerau neu unrhyw ddeddfau, rheoliadau a rheolau eraill gennych chi neu ein hasiantau (neu gynrychiolwyr) yn gweithredu ar eich rhan; neu unrhyw rwymedigaethau eraill sy’n codi allan o’ch defnydd o’r Wefan, neu’r defnydd gan unrhyw unigolyn arall sy’n cyrchu at y Wefan gan ddefnyddio ein cyfrifiadur personol neu ein cyfrif mynediad at y rhyngrwyd. Rydych hefyd yn ein hindemnio yn erbyn unrhyw hawliadau fod gwybodaeth neu ddeunydd yr ydych wedi ei gyflwyno i ni yn torri unrhyw ddeddf neu unrhyw hawliau trydydd parti (gan gynnwys heb gyfyngiad, hawliadau mewn perthynas â difenwad, ymyrryd â phreifatrwydd, torri cyfrinachedd, torri ar hawlfraint neu dorri ar unrhyw hawl i eiddo deallusol arall). Rydym yn cadw’r hawl i amddiffyn a rheoli unrhyw hawliadau yn deillio o’r uchod ac unrhyw faterion o’r fath yn ymwneud ag indemnio. Rydych yn cytuno y byddwch yn cydweithredu’n llawn â ni mewn unrhyw amddiffyniad o’r fath.
4. EIN HAWLIAU
4.1 Rydym yn cadw’r hawl i:
4.1.1 ddiwygio neu dynnu’n ôl dros dro neu’n barhaol, y Wefan (neu unrhyw ran ohoni) gyda neu heb rybudd i chi ac rydych yn cadarnhau na fyddwn yn gyfrifol i chi nac i unrhyw drydydd parti am unrhyw ddiwygiad i’r wefan neu dynnu’r wefan yn ôl, a/neu,
4.1.2 newid yr amodau a’r telerau hyn o bryd i’w gilydd, a thybir bod eich defnydd parhaol o’r Wefan (neu unrhyw ran ohoni) yn dilyn newid o’r fath yn gyfystyr â’ch bod yn derbyn newid o’r fath. Daw unrhyw newidiadau o’r fath i rym ar unwaith wedi eu postio, felly eich cyfrifoldeb chi yw gwirio yn rheolaidd i benderfynu a yw’r Amodau a’r Telerau wedi eu newid. Os nad ydych yn cytuno i unrhyw newid i’r Amodau a’r Telerau yna rhaid i chi atal defnyddio’r Wefan ar unwaith.
4.2 Byddwn yn defnyddio ein hymdrechion rhesymol i gynnal y Wefan. Gall y Wefan newid o bryd i’w gilydd. Ni fyddwch yn gymwys am unrhyw iawndal oherwydd na allwch ddefnyddio unrhyw ran o’r Wefan neu oherwydd methiant, ataliad neu dynnu’n ôl y cyfan neu ran o’r Wefan oherwydd amgylchiadau y tu hwnt i’n rheolaeth.
5. CYSYLLTIADAU TRYDYDD PARTI
Mewn ymdrech i ddarparu mwy o werth i’n Defnyddwyr, efallai y byddwn yn darparu dolennau i wefannau neu adnoddau eraill. Rydych yn cydnabod ac yn cytuno nad ydym yn gyfrifol am argaeledd safleoedd neu adnoddau allanol o’r fath, ac nid ydych yn cefnogi ac nid ydych yn gyfrifol am nac yn atebol yn uniongyrchol neu yn anuniongyrchol, am arferion preifatrwydd neu gynnwys (gan gynnwys cynnwys sy’n cam-gynrychioli neu sy’n ddifrïol) safleoedd o’r fath, gan gynnwys (heb gyfyngiad) unrhyw hysbysebu, cynhyrchion neu ddeunyddiau neu wasanaethau eraill ar neu sydd ar gael o wefannau neu adnoddau o’r fath, nac unrhyw ddifrod, colled neu drosedd a achosir neu yr honnir sydd wedi ei achosi gan neu mewn cysylltiad â’r defnydd neu ddibyniaeth ar unrhyw gynnwys, nwyddau neu wasanaethau o’r fath sydd ar gael ar safleoedd neu adnoddau allanol o’r fath.
6. MONITRO
Mae gennym yr hawl ond nid y rhwymedigaeth, i fonitro unrhyw weithgaredd a chynnwys sy’n gysylltiedig â’r wefan. Gallwn ymchwilio i unrhyw adroddiad ynglyn â thorri’r Amodau a’r Telerau hyn neu gwynion eraill a chymryd unrhyw gamau a dybiwn sy’n briodol (a all gynnwys, ond nad yw’n cael ei gyfyngu i, gyhoeddi rhybuddion, atal, terfynu neu atodi amodau wrth eich mynediad at/neu ddileu unrhyw ddeunyddiau ar y Wefan).
7. EICH DATA
7.1 Rydym yn parchu eich Data Personol ac yn addo cydymffurfio â deddfwriaeth Gwarchod Data cymwys yr UE a’r DU sydd mewn grym o’i bryd i’w gilydd.
7.2 Dylech fod yn ymwybodol:
7.2.1 os gofynnir inni gan yr heddlu neu unrhyw awdurdod rheoleiddio neu lywodraeth arall sy’n ymchwilio i weithgareddau yr amheuir sy’n anghyfreithlon, neu ar ôl derbyn gorchymyn llys, i ddarparu eich Data Personol a/neu wybodaeth yn ymwneud â’ch gweithgareddau wrth i chi ddefnyddio’r Wefan byddwn yn gwneud hynny; a,
7.2.2 os cytunwch, drwy ddewis y blychau priodol ar y ffurflenni perthnasol, gallwn werthu eich manylion cyswllt a’ch manylion am hoffterau i drydydd parti i’w galluogi i anfon gwybodaeth atoch y credant fydd o ddiddordeb i chi. Gellir lleoli’r trydydd parti hyn mewn gwledydd y tu allan i’r DU nad oes ganddynt ddeddfau i warchod eich Data Personol. Darperir manylion am y trydydd parti a’r gwledydd sy’n derbyn eich Data Personol pan wneir cais am hynny.
7.3 Rydym yn cadw’r hawl yn ein doethineb rhesymol i ddatgelu manylion am eich defnydd o’r Wefan mewn perthynas ag unrhyw achos llys neu unrhyw fygythiad o achos llys mewn cysylltiad â’ch defnydd, neu’r defnydd o unrhyw un o dan eich rheolaeth, o’r Wefan boed hynny mewn cysylltiad â’r materion a gyflwynwyd yn yr Amodau a’r Telerau hyn neu fel arall.
7.4 Mae CLICarlein yn gweithio fel gwasanaeth cyfrinachol i chi fel pobl ifanc. Mae hyn yn golygu beth bynnag byddech yn ddweud ar CLICarlein yn aros yn ddienw ac ar gyfer CLICarlein yn unig. Er hynny, bydd yna adegau, yn ôl y gyfraith, mae'n rhaid i ni drosglwyddo'r wybodaeth o rowch i ni, os maent yn golygu fod chi, neu rywun arall, mewn risg sylweddol o niwed. Mae hyn yn cael ei enw'n 'amddiffyn plant'.
Os yw hyn yn wir, byddwn yn ceisio cysylltu â chi i adael i chi wybod ein bod yn pasio'r wybodaeth ymlaen i sefydliadau eraill a all eich cefnogi. Mae angen i ni wneud hyn, gydag eich caniatâd neu beidio. Er hynny, byddwn ni'n cadw mewn cysylltiad gyda chi i adael i chi wybod beth rydym yn wneud.
Os ydych yn cael unrhyw cwestiwn ynglŷn â'r uchod, cysylltwch ag olygydd cenedlaethol, Ryan Heeger, ar ryan@clicarlein.co.uk, neu ffoniwch ni ar 029 2046 2222.
7.5 Ewch yn ôl i waelod pob tudalen i adolygu ein Polisi Preifatrwydd, sy’n ffurfio rhan o’r Amodau a’r Telerau hyn.
8. EIDDO DEALLUSOL A HAWL I DDEFNYDDIO
8.1 Rydych yn cydnabod ac yn cytuno y bydd yr holl hawlfraint, nodau masnach a phob hawliau eiddo deallusol eraill yn yr holl ddeunydd neu gynnwys a gyflenwir fel rhan o’r Wefan (gan gynnwys heb ofyniad, testun, delweddau, tudalennau gwe, sain, meddalwedd (gan gynnwys cod, rhyngwyneb a strwythur gwefan), fideo, ffotograffau a delweddau graffigol, ac edrychiad a theimlad y dyluniad a’i grynhoad) yn parhau bob amser yn ein dwylo ni neu ein trwyddedwyr. Caniateir i chi ddefnyddio’r deunydd hwn yn unig fel yr awdurdodwyd yn benodol gennym ni ac eithrio fel y darparwyd yn yr Amodau a’r Telerau hyn. Nid yw defnyddio’r Wefan hon yn rhoi unrhyw hawl, teitl, diddordeb na thrwydded i chi i unrhyw eiddo deallusol o’r fath y gellir cyrchu ato ar y Wefan. Ac eithrio fel y darperir yn yr Amodau a’r Telerau hyn, gwaharddir unrhyw ddefnydd neu atgynhyrchiad o’r eiddo deallusol.
8.2 Rydych yn cydnabod ac yn cytuno bod y deunydd a’r cynnwys a gynhwysir o fewn y Wefan ar gael ar gyfer eich defnydd personol, anfasnachol ar y sail ganlynol:
8.2.1 gallwch lawrlwytho deunydd a chynnwys o’r fath i un dreif caled cyfrifiadurol yn unig; ac
8.2.2 ni chaiff unrhyw destun, dogfennau, graffeg na chynnwys arall ar y Wefan hon eu diwygio mewn unrhyw fodd; ac
8.2.3 ni ddefnyddir unrhyw graffeg ar y Wefan hon ar wahân i’r testun sy’n mynd gydag ef; ac
8.2.4 mae ein rhybudd hawlfraint a’r rhybudd caniatâd hwn yn ymddangos ym mhob copi.
8.3 Gwaherddir unrhyw ddefnydd arall o’r deunydd a chynnwys y Wefan. Rydych yn cytuno i beidio â (ac yn cytuno i beidio â chynorthwyo na hwyluso unrhyw drydydd parti i) gopïo, atgynhyrchu, trawsyrru, cyhoeddi, dangos, dosbarthu, defnyddio’n fasnachol na chreu gweithiau yn deillio o ddeunydd a chynnwys o’r fath.
8.4 Os ydych yn torri unrhyw rai o’r Amodau a’r Telerau hyn, mae eich caniatâd i ddefnyddio’r Wefan hon yn dirwyn i ben yn awtomatig a rhaid i chi ddinistrio unrhyw ddetholiadau sy’n cael eu lawrlwytho neu eu hargraffu o’r Wefan hon ar unwaith.
9. CYFRANIADAU AT CLICarlein.co.uk
Lle gwahoddir chi i gyflwyno unrhyw gyfraniad at CLICarlein.co.uk (gan gynnwys unrhyw destun, ffotograffau, graffeg, fideo neu sain) rydych yn cytuno, drwy gyflwyno eich cyfraniad, i roi i CLICarlein.co.uk hawl a thrwydded am byth, heb freindal, anghynhwysol, is-drwyddedadwy i ddefnyddio, atgynhyrchu, diwygio, mabwysiadu, cyhoeddi, cyfieithu, creu gweithiau deilliannol o, dosbarthu, perfformio, chwarae, sicrhau ei fod ar gael i’r cyhoedd ac ymarfer pob hawlfraint a hawliau cyhoeddusrwydd mewn perthynas â’ch cyfraniad ledled y byd a/neu i gynnwys eich cyfraniad mewn gweithiau eraill mewn unrhyw gyfryngau sy’n wybyddus yn awr neu a ddatblygwyd yn ddiweddarach ar gyfer tymor llawn unrhyw hawliau a all fodoli yn eich cyfraniad, ac yn unol â chyfyngiadau preifatrwydd a gyflwynir ym Mholisi Preifatrwydd CLICarlein.co.uk. Os nad ydych yn dymuno rhoi’r hawliau a gyflwynir uchod i CLICarlein.co.uk, peidiwch â chyflwyno eich cyfraniad i CLICarlein.co.uk.
Drwy gyflwyno eich cyfraniad i CLICarlein.co.uk rydych chi: 9.1. yn gwarantu bod eich cyfraniad:
9.1.1. yn waith gwreiddiol chi eich hun a bod gennych yr hawl i sicrhau ei fod ar gael i CLICarlein.co.uk i’r holl ddibenion a nodwyd uchod;
9.1.2 nad yw’n ddifrïol, a
9.1.3 nad yw’n torri unrhyw ddeddf; a
9.2. yn indemnio CLICarlein.co.uk yn erbyn pob ffi cyfreithiol, iawndal a threuliau eraill y gellir eu gwario gan CLICarlein.co.uk o ganlyniad i dorri’r gwarant uchod; ac 9.3 yn ildio unrhyw hawliau moesol yn eich cyfraniad i bwrpas eu cyflwyno i gyhoeddiad ar CLICarlein.co.uk ac i’r pwrpasau a nodwyd uchod.
10. HYSBYSIADAU
10.1 Gallwch anfon hysbysiadau atom o dan neu mewn cysylltiad â’r Amodau a’r Telerau hyn:
10.1.1 drwy’r post at: CLICarlein, ProMo-Cymru, Unit 13, Royal Stuart Workshops, Adelaide Place, Cardiff, CF10 5BR
10.2 Oherwydd nad yw prawf o anfon yn sicrhau ein bod wedi derbyn eich hysbysiad, mae’n rhaid i chi sicrhau eich bod wedi derbyn cydnabyddiaeth oddi wrthym ni a anfonir o fewn 3 diwrnod gwaith o’r amser y byddwn wedi ei dderbyn, a rhaid i chi gadw’r dderbynneb.
11. CYFYNGU AR RWYMEDIGAETH
11.1 ER Y BYDDWN YN DEFNYDDIO POB YMDRECH RESYMOL I DDILYSU CYWIRDEB UNRHYW WYBODAETH A RODDWN AR Y WEFAN, NID YDYM YN RHOI UNRHYW WARANTAU, BOED HYNNY’N BENODOL NAC YMHLYG MEWN PERTHYNAS Â’I CHYWIRDEB.
11.2 Darperir y Wefan ar sail “fel ag y mae” ac “fel mae ar gael” heb unrhyw gynrychiolaeth na chefnogaeth. Oni bai y nodir mewn amodau a thelerau ar wahân sy’n gysylltiedig â chynnyrch neu wasanaeth arbennig, nid ydym yn gwneud unrhyw warant o unrhyw fath, boed hynny’n benodol nac ymhlyg mewn perthynas â’r wefan, neu gynhyrchion neu wasanaethau a gynigir ar y wefan boed hynny gennym ni neu ar ein rhan (gan gynnwys lawrlwytho meddalwedd am ddim) gan gynnwys ond heb ei gyfyngu i, warantau ymhlyg o ansawdd boddhaol, ffitrwydd ar gyfer pwrpas arbennig, peidio â thorri amodau, cydnawsedd, diogelwch, cywirdeb, amod neu gyflawnder, neu unrhyw warant arall sydd ymhlyg yn deillio o ddelio neu ddefnyddio neu fasnachu.
11.3 Oni bai y nodwyd mewn amodau a thelerau ar wahân sy’n gysylltiedig â chynnyrch neu wasanaeth arbennig, nid ydym yn rhoi unrhyw warant fod y Wefan neu gynhyrchion neu wasanaethau a gynigir ar y Wefan boed hynny gennym ni neu ar ein rhan (gan gynnwys lawrlwytho meddalwedd am ddim) yn bodloni eich gofynion, neu na fyddant yn rhai na amharir arnynt, yn amserol, yn ddiogel neu yn rhydd o wallau, y bydd diffygion yn cael eu cywiro, neu fod y wefan neu’r serfiwr sy’n sicrhau ei bod ar gael neu gynhyrchion neu wasanaethau a gynigir ar y Wefan boed hynny gennym ni neu ar ein rhan (gan gynnwys lawrlwythiadau o feddalwedd am ddim) yn rhydd o firysau neu namau neu eu bod yn gweithio’n llawn, yn gywir neu yn ddibynadwy. Ni fyddwn yn gyfrifol nac yn atebol i chi am golli unrhyw gynnwys neu ddeunydd o ganlyniad i lwytho i neu lawrlwytho o’r Wefan.
11.4 Heblaw am unrhyw ddarpariaeth arall yn yr Amodau a’r Telerau, ni fydd unrhyw beth yma yn cyfyngu ar eich hawliau fel defnyddiwr o dan ddeddf Lloegr.
11.5 Rydych yn cydnabod na allwn sicrhau ac felly na fyddwn mewn unrhyw fodd yn gyfrifol am ddiogelwch neu breifatrwydd y Wefan ac unrhyw wybodaeth a ddarperir i neu a gymerir o’r Wefan gennych chi.
11.6 Ni fyddwn yn gyfrifol mewn contract, camwedd neu fel arall os cewch golled neu ddifrod yn gysylltiedig â’r Wefan drwy ddolen hyperdestun trydydd parti.
11.7 Ni fyddwn yn gyfrifol, mewn contract, camwedd (gan gynnwys, heb gyfyngiad, esgeulustod), cyn contract neu gynrychiolaeth arall (heblaw camgynrychiolaeth twyllodrus) neu fel arall allan o neu mewn cysylltiad â’r Wefan neu gynhyrchion neu wasanaethau a gynigir ar y Wefan boed hynny gennym ni neu ar ein rhan (gan gynnwys lawrlwythiadau o feddalwedd am ddim) ac:
11.7.1 unrhyw golledion economaidd (gan gynnwys heb gyfyngiad colli refeniw, elw, contractau, busnes neu gynilion tybiedig); neu
11.7.2 colli unrhyw ewyllys da neu enw da; neu
11.7.3 unrhyw golledion arbennig neu anuniongyrchol neu ganlyniadol; beth bynnag p’run ai yw unrhyw golledion o’r fath o fewn ystyriaeth y naill neu’r llall ohonom ar y dyddiad y digwyddodd y digwyddiad a achosodd y golled.
11.8 Ni fydd unrhyw beth yn yr Amodau a’r Telerau yn allgau nac yn cyfyngu ar ein hatebolrwydd am farwolaeth neu niwed personol yn deillio o esgeulustod neu esgeulustod ein gweision, asiantau neu weithwyr.
12. DATGYSYLLTU Os tybir bod unrhyw ran o’r Amodau a’r Telerau yn anghyfreithlon, yn ddi-rym neu am unrhyw reswm yn rhai na ellir eu gorfodi, yna tybir y gall y ddarpariaeth honno gael ei dadgysylltu o’r Amodau a’r Telerau hyn ac ni fydd yn effeithio ar ddilysrwydd a gallu i orfodi unrhyw rai o’r darpariaethau sy’n weddill yn yr Amodau a’r Telerau hyn.
13. Ni fydd unrhyw beth yn cael ei ystyried fel ildiad hawl gennym ni o unrhyw doriad blaenorol neu olynol ar unrhyw ddarpariaeth yn yr Amodau a’r Telerau hyn.
14. CYTUNDEB CYFAN
Mae’r Amodau a’r Telerau hyn (fel y’u diwygiwyd o bryd i’w gilydd), gan gynnwys y Polisi Preifatrwydd, yn ffurfio’r cytundeb cyfan rhyngoch chi a ni mewn perthynas â’r deunydd yr ymdriniwyd ag ef, ac mae’n disodli unrhyw gytundebau, trefniadau, ymgynghoriadau neu argymhellion blaenorol, yn ysgrifenedig neu ar lafar, rhyngoch chi a ni mewn perthynas â materion o’r fath. Ni fydd unrhyw eglurhad llafar neu wybodaeth lafar a roddir gan y naill neu’r llall ohonom yn newid dehongliad yr Amodau a’r Telerau hyn. Rydych yn cadarnhau, wrth gytuno i dderbyn yr Amodau a’r Telerau hyn, nad ydych wedi dibynnu ar unrhyw gynrychiolaeth ac eithrio i’r graddau y mae hyn wedi ei wneud yn benodol yn yr Amodau a’r Telerau hyn, ac rydych yn cytuno na fydd gennych unrhyw ateb mewn perthynas ag unrhyw gamgynrychiolaeth nad yw wedi ei gynnwys o fewn yr Amodau a’r Telerau hyn ac eithrio na fydd eich cytundeb a gynhwysir yn y ddarpariaeth hon yn berthnasol mewn perthynas ag unrhyw gamgynrychiolaeth twyllodrus p’run ai a gafodd camgynrychiolaeth o’r fath ei gynnwys o fewn yr Amodau a’r Telerau hyn ai peidio. Ni fydd y methiant gennym ni i ymarfer neu orfodi unrhyw hawl neu ddarpariaeth yn yr Amodau a’r Telerau hyn yn ffurfio ildiad i hawl neu ddarpariaeth o’r fath.
15. Y DDEDDF
Llywir yr Amodau a’r Telerau yn llwyr gan ac fe’u dehonglir yn unol â deddfau Cymru a Lloegr y bydd gan eu Llysoedd awdurdodaeth anghynhwysol mewn unrhyw anghydfod, ac eithrio fod gennym yr hawl, yn ôl ein disgresiwn, i ddechrau a chyflwyno achosion mewn awdurdodaethau eraill.