Sut y gallaf i gymryd rhan gyda TheSprout?
Gall unrhyw un gyda syniad, barn, profiad, erthygl neu ffotograff yr hoffent eu rhannu gyda phobl ifanc eraill gyfrannu at TheSprout. Y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw cofrestru - a dilyn y cyfarwyddiadau syml am sut i gyflwyno eich cynnwys eich hun. Mae bod yn aelod cofrestredig yn rhoi cyfle i chi roi sylwadau hefyd ar erthyglau eraill.
Rhan o brosiect TheSprout ydy cael Grwpiau Golygyddol theSprout o bobl ifanc sydd â diddordeb a all lywio’r gwefannau a’r cynnwys. Mae’r grwpiau hyn yn cyfarfod yn rheolaidd yn bersonol ac ar-lein i drafod sut mae’r gwefannau yn gweithio a gweithredu fel gohebyddion, gan ennill sgiliau a phrofiad ar hyd y ffordd.
Ond os nad yw ysgrifennu yn apelio atoch ond eich bod yn dal i fod eisiau dweud eich dweud neu fod yn gysylltiedig â TheSprout, gallwch:
- Adael eich sylwadau i ni ar y tudalennau perthnasol
- Ein hychwanegu ar un o’n proffiliau rhwydweithio cymdeithasol
- Creu eich proffil rhwydweithio cymdeithasol eich hun. Os oes gennych brosiect neu yr hoffech ddechrau grwp neu broffil ar gyfer eich ardal, sefydliad neu grwp golygyddol lleol gallwch ddarganfod awgrymiadau a phwyntiau pwysig ar ein tudalennau diogelwch ar-lein.
Grw p Golygyddol TheSprout
Os teimlwch y gallwch gyfrannu ac yr hoffech gymryd rhan ac ymuno â’r gr?p edrychwch ar (Dolen i dudalen y gr?p golygyddol) a chysylltwch â’r Golygydd, Arielle Tye, ar y ffôn 07989 743 987 neu drwy e-bost arielle@thesprout.co.uk