Beth yw TheSprout?
Mae TheSprout yn wefan ryngweithiol sy’n annog creadigrwydd a chysylltiad uniongyrchol wrth ddarparu gwybodaeth am weithgareddau a gwasanaethau sydd ar gael i bob un ohonoch chi, bobl ifanc da Caerdydd.
Mae’r safle yn gweithredu o fewn eich Ten Entitlements (hawliau pobl ifanc fel y cyflwynir hwy gan y Welsh Assembly Government) ac mae’n cyd-fynd â European Youth Information Charter.
Mae wedi bod yn fyw er mis Hydref 2007, gyda’n official launch yn cael ei gynnal ym mis Tachwedd 2008 (pan oeddem yn falch o fod y bobl gyntaf i roi’r Arglwydd Faer ar y llwyfan yng Nghlwb Ifor Bach).
Mae TheSprout yn rhan o CLIC, y Gwasanaeth Cenedlaethol i roi Gwybodaeth a Chyngor i bobl ifanc yng Nghymru, sy’n cael ei ailddatblygu ar hyn o bryd ac sy’n cynhyrchu safleoedd tebyg dros Gymru.
Cynyddodd y niferoedd o ddefnyddwyr cofrestredig yn ddramatig bob mis, yn bennaf (fe dybiwn) oherwydd ei fod yn rhoi cyfle i chi lwytho eich cynnwys eich hun a’i weld yn fyw.
AMae Grwp Golygyddol rhwng 11 a 25 oed yn cyfarfod bob mis ac yn gyfrifol am ysgrifennu, rhoi adroddiadau, tynnu lluniau, dylunio, hyrwyddo ac unrhyw beth arall a deimlant y dylid ei gynnwys. Maent hefyd yn gwneud penderfyniadau am gynnwys a newidiadau technegol.
Os oes gennych ddiddordeb mewn ymuno â’r grwp neu fynychu un o’r cyfarfodydd (a gynhelir yn y Llyfrgell Ganolog ac sy’n cynnwys bisgeden wahanol, fel y pleidleisiwyd amdani ymlaen llaw, bob mis), cysylltwch â’r Golygydd, sam: sam@theSprout.co.uk neu’r Is-olygydd, Sam: tom@theSprout.co.uk.
Pwy sy’n ei redeg?
Cyllidwyd ProMo-Cymru i gyflenwi theSprout gan Cardiff Children And Young People’s Partnership. Edrychir dros holl gynnwys y cyfryngau gan Editor a gyflogir gan ProMo-Cymru. Edrychir dros ochr trefniadaeth a gwybodaeth pethau gan Swyddog Gwybodaeth o CYPP.
Pwy sydd wedi ei ddylunio?
Mae ProMo-Cymru yn gweithio gyda phobl glyfar o’r enw Burning Red, cwmni dylunio creadigol sy’n gweithio ym Mae Caerdydd. Mae’r cwmni cyfoes hwn Burning Red sy’n teimlo’n angerddol am ein gwaith, ac sy’n gweithio o’n lleoliad ym Mae Caerdydd, yn ganolfan greadigol i arbenigwyr dylunio sydd wedi ymrwymo i ddod â’ch brand chi yn fyw. Mae ein cleientiaid yn amrywiol – corfforaethau, sefydliadau yn y sector cyhoeddus a phreifat, adwerthwyr a cherddorion i enwi dim ond rhai – ond mae ganddynt un peth yn gyffredin – yr angen am gyfathrebu creadigol”.
Beth sydd arno ei eisiau?
Ei fwydo! Bwydwch theSprout gyda beth bynnag y ffansiwch ei rannu: newyddion, adolygiadau, ysgrifennu creadigol, rhagolygon, erthyglau nodwedd neu rhowch wybod i bawb am eich digwyddiadau neu eich barn. Defnyddiwch ef i ddatblygu eich sgiliau newyddiadurol. Mae gennych y gallu i ychwanegu fideos o YouTube i eitemau newyddion, a gallwch lwytho hyd at bum delwedd i gyd-fynd â’ch stori. Gallwch hefyd nodi pa mor gyfeillgar tuag at bobl ifanc y credwch y bu sefydliad wrth i chi ddefnyddio eu gwasanaeth.
Sut y gallaf weld fy ngwaith ysgrifennu ar theSprout?
Cymerwch ddau funud i register a gallwch ddechrau submit deunydd. Os oes arnoch angen help, ebostiwch sam@theSprout.co.uk.
Beth arall y mae’n gallu ei wneud?
Mae’n caniatau i chi addasu cefndir eich tudalen gartref. Edrychwch ar y themâu gwahanol a gyflwynwyd yn barod ar y chwith neu here. Os ydych yn teimlo’n greadigol, darllenwch ein intro guide cyflym a chyflwynwch rai eich hun.
Mae tudalenOrganisational Directory, Jobs & Careers, Learning Opportunities Directory a Links & Resources i gyd yn disgwyl i chi eu defnyddio.
Felly, yn gryno:
Beth yw theSprout?
- Gwefan ryngweithiol a chylchgrawn chwarterol sy’n cynnig gwybodaeth, newyddion a chyngor i bobl ifanc 11-i-25 oed yng Nghymru.
- Mae’n caniatáu i bobl ifanc a sefydliadau sy’n gweithio gyda nhw lwytho erthyglau, lluniau, fideos a themâu cefndir.
- Mae Grwp Golygyddol o bobl ifanc yn arwain datblygiad y safle.
- Rhan o CLIC, y Gwasanaeth Cenedlaethol sy’n rhoi Gwybodaeth a Chyngor yng Nghymru.
Beth sy’n wych am theSprout a CLIC?
- Mae’r cynnwys yn cael ei greu gennych chi a’r sefydliadau sy’n cefnogi eich gweithgareddau.
- Mae’n caniatáu i chi ddweud beth a ddymunwch ac yn rhoi cyfle i chi gyfnewid syniadau.
- Mae’n creu, datblygu a rhannu gwybodaeth yn lleol ac yn genedlaethol.
- Mae rhannu deunydd amlgyfrwng yn dangos eich syniadau creadigol a’ch sgiliau
- Mae’n hyrwyddo cyfranogiad a chynhwysiant drwy grwpiau golygyddol a arweinir gan ieuenctid.
- Mae’n gweithio’n agos gyda rhwydweithiau gwybodaeth i ieuenctid ar draws Cymru i rannu adnoddau
- Llwyfan i chi a sefydliadau eraill i roi cyhoeddusrwydd i’ch cynnydd a’ch cyflawniadau
- Mae’n tynnu sylw at syniadau ac arferion da i bawb ddysgu oddi wrthynt
- Gallwch ddarganfod am brosiectau a sut i gymryd rhan o bob rhan o Gymru
TheSprout FAQs - eich galwad cyntaf am bob cwestiwn sy’n gysylltiedig â’r Sprout.