Welcome to The Sprout! Please sign up or login

Cystadleuaeth: Ennill Tocynnau Boyzone!

Posted by ??? from Cardiff - Published on 04/11/2013 at 10:05
0 comments » - Tagged as Music

  • boyzone

English version // Yn Saesneg

Fel un o'r bandiau mwyaf llwyddiannus yn hanes bandiau bechgyn, mae Boyzone wedi gwerthu 25 miliwn record yn fyd eang gyda 19 o senglau yn 4 uchaf Prydain a llwyddiannau rhif un yn siartiau Prydain ac Iwerddon.

Ac 20 mlynedd ar ôl eu lansiad cychwynnol i'r byd pop, mae'r band yn ôl ar y bws teithio i ddathlu dau ddegawd o dan y sbotolau.

Ac unwaith eto, mae theSprout.co.uk yma i gael ti a ffrind i mewn am ddim.

Wedi cychwyn yn Nulyn yn 1993 gan Louis Walsh, cyrhaeddodd albwm cyntaf y grŵp, Said And Done, rhif un yn Iwerddon a Phrydain ac o'r fan honno roedd y naid i enwogrwydd wedi'i sicrhau. Gyda gwahaniad, taith aduniad wedi'i werthu allan a marwolaeth drasig yn y band, mae'r ddeg mlynedd diwethaf wedi bod yn rai aflonydd iawn. Ond mae Ronan, Keith, Shane a Mikey nawr yn rhoi'r sioe fwyaf erioed ymlaen gyda hen ffefrynnau a thraciau o albwm newydd sbon. Sioe BZ20 ydy'r anrheg Nadolig perffaith i ti a dy fam.

Os wyt ti eisiau bod yn y gynulleidfa yn Arena Motorpoint Caerdydd ar ddydd Sul, 1af Rhagfyr 2013, yr unig beth sy'n rhaid gwneud ydy gadael sylwad isod. Mae gennym dau bâr o docynnau i roi allan.

Bydd ceisiadau yn cau am 4yh dydd Mercher, 20fed Tachwedd 2013 a dim ond un cais i bob person. I adael sylwad, mae angen proffil Sprout neu CLICarlein, sydd am ddim ac yn hawdd cofrestru, yn fan hyn.

Os wyt ti'n aflwyddiannus, mae tocynnau ar gael i sioeau Boyzone ar ddydd Sul 1af a dydd Llun 2il Rhagfyr 2013 trwy'r Swyddfa Docynnau, 02920 22 44, am £35.50 a ffi bwcio. Pob lwc!

Digwyddiadau – Cyfarfod Grŵp Golygyddol Sprout Tachwedd 2013

Gwybodaeth – Cerddoriaeth

Sefydliadau – Cardiff Soundscene

Erthyglau – Categorïau – Cerddoriaeth

Cofia, fel gyda phopeth ar theSprout.co.uk, mae rhywun yn edrych ar yr holl sylwadau cynt felly nid ydynt yn mynd yn fyw yn syth. Hefyd, un cais i bob person.

Got something to say?

You must be logged in to post comments on this website.

Login or Register.

Please take a few minutes to complete this survey. It will help us find out how you use the website so we can keep improving it for you. Everyone who completes the survey will get the chance to win £50.